Graeanwyr Sir Gâr yn penderfynu streicio dros gyflogau

  • Cyhoeddwyd
TaenuFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gweithwyr sy'n graeanu ffyrdd Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu streicio oherwydd anghydfod dros gyflogau.

Roedd pleidlais aelodau undeb y GMB ar y mater yn cau amser cinio ddydd Llun, gyda dros 75% o blaid streicio.

Bydd pleidlais aelodau undebau Unsain ac Unite ar y mater yn dod i ben yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae'r gweithwyr wedi rhybuddio y gallai'r streic arwain at anhrefn ar y ffyrdd yn y flwyddyn newydd.

'Dim cynnig teg'

Mae'r GMB, sy'n cynrychioli 50 o staff, yn dweud bod telerau ac amodau eu haelodau yn Sir Gâr gyda'r gwaethaf o blith awdurdodau lleol.

Yn ôl trefnydd rhanbarthol yr undeb, maen nhw wedi bod yn trafod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er mwyn ceisio dod i gytundeb ond mae'r undeb yn dadlau nad ydyn nhw wedi cael cynnig teg hyd yn hyn.

Cyn canlyniad y bleidlais dywedodd pennaeth priffyrdd a thrafnidiaeth Cyngor Sir Gâr, Stephen Pilliner, ei fod wedi bod mewn trafodaethau gyda'r undebau ynglŷn â chynnal a chadw ffyrdd dros y gaeaf.

Ychwanegodd bryd hynny y byddan nhw'n trafod canlyniad y balot gyda'r undebau unwaith iddo gael ei gyhoeddi.