'Angen cefnogi ffermwyr amgylcheddol gynaliadwy'
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl miloedd o bobl i heidio i Lanelwedd ddydd Llun ar gyfer y ffair aeaf sydd eleni yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed.
Yn ystod y deuddydd bydd yr undebau amaeth yn lansio eu maniffesto nhw ar gyfer yr etholiad cyffredinol.
Fore Llun bydd Bwrdd Hybu Cig Cymru yn galw am well cefnogaeth i ffermwyr Cymru sy'n amgylcheddol gynaliadwy.
Dywedodd Cadeirydd Hybu Cig Cymru Kevin Roberts: "Mae'n bryd cefnogi ffermwyr Cymru, sy'n amgylcheddol gynaliadwy, a dynodi'n glir y gwahaniaeth enfawr rhwng eu dulliau nhw a'r ffyrdd tra gwahanol o gynhyrchu da byw ar draws y byd.
"Yng Nghymru, rydym yn magu ein hanifeiliaid yn foesegol, ac mewn modd sy'n parchu'r amgylchedd.
"Mae'r gwyddorau ffisegol a'r ddaearyddiaeth o'n plaid - digon o law a glaswellt bras ar dir sydd wedi'i ffermio am ganrifoedd ac sy'n ddelfrydol ar gyfer magu da byw."
'Cynhyrchu o'r radd flaenaf'
Mae'n ychwanegu nad yw am leihau pwysigrwydd y bygythiad amgylcheddol byd-eang difrifol a achosir gan ddifetha coedwigoedd yr Amazon ond ei bod yn bwysig bod Cymru yn canu ei chlodydd ei hun.
"Mae cynhyrchu cig coch mewn sawl rhan o'r byd yn wahanol dros ben i'n ffordd ni.
"Mae'r problemau sydd yn ymwneud â dulliau cynhyrchu dwys a dinistrio'r fforest law yn gwbl estron i fryniau gwyrdd a ffrwythlon Cymru, ein hwsmonaeth clodwiw, ein gofal am ein hanifeiliaid a'n systemau cynhyrchu o'r radd flaenaf," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2018