Dafydd Iwan: Cymraeg The Crown yn 'rhyfeddol' i frwydr yr iaith
- Cyhoeddwyd
Mae amlygrwydd y Gymraeg yng nghyfres newydd The Crown yn "rhyfeddol o ddefnyddiol" i'r frwydr dros yr iaith, yn ôl Dafydd Iwan.
Ym mhennod chwech o'r gyfres newydd mae'r Gymraeg yn flaenllaw wrth ymdrin â chyfnod Tywysog Cymru yn Aberystwyth a Chaernarfon adeg yr arwisgo yn 1969.
The Crown ydy un o gyfresi fwyaf llwyddiannus Netflix, ac mae'r gyfres newydd hefyd yn cynnwys rhifyn sy'n canolbwyntio ar drychineb Aberfan.
Roedd Dafydd Iwan a'i ganeuon yn rhan amlwg o'r protestio adeg yr arwisgo, ond dywedodd bod y gyfres yn "driniaeth eithaf teg" o'r iaith ac yn gymorth "yn y frwydr i gael cefnogaeth i'r Gymraeg".
Yn ôl yr actor Mark Lewis Jones mae Netflix wedi bod "yn ofnadwy o ddewr" wrth roi cymaint o'r Gymraeg yn y gyfres.
'Rhyfeddol o ddefnyddiol'
Enw'r bennod sy'n delio â'r arwisgiad ydy Tywysog Cymru ac mae'r Tywysog, sydd wedi'i bortreadu gan yr actor Josh O'Connor, i'w weld yn teithio i Aberystwyth wedi gorchymyn gan ei fam, y Frenhines, i ddysgu Cymraeg cyn y seremoni fawr.
Wrth gyrraedd y brifysgol mae'n cwrdd â'i diwtor Dr Tedi Millward, rhan sydd wedi'i chwarae gan yr actor Mark Lewis Jones. Nia Roberts sy'n chwarae rhan ei wraig, Silvia Millward.
Mae'r gŵr a'r wraig i'w gweld yn sgwrsio yn naturiol yn Gymraeg mewn golygfeydd yn eu cartref, gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin.
Dywedodd Dafydd Iwan: "Doeddwn i ddim yn teimlo'n anghyfforddus o gwbl am y ffordd wnaethon nhw drin y Gymraeg.
"'Da ni, yn anffodus, wedi arfer â thriniaeth Saesneg o'r Gymraeg - naill ai yn nawddoglyd neu yn anwybodus."
Dywedodd bod y bennod wedi rhoi "triniaeth eithaf teg o'r iaith fel iaith fyw".
"Mae'n rhyfeddol o ddefnyddiol i ni yn y frwydr i gael cefnogaeth i'r Gymraeg."
Mae posteri Cymdeithas yr Iaith ac un yn hysbysebu Dafydd Iwan i'w gweld yng nghefndir rhai golygfeydd, rhywbeth mae Mr Iwan yn cyfaddef oedd "ychydig bach yn rhyfedd".
Roedd yn ymwybodol fod ei gyfraniad i'r frwydr dros yr iaith, a'i wrthwynebiad i'r arwisgiad, yn mynd i ymddangos yn y gyfres ar ôl i gynhyrchwyr The Crown gysylltu i ofyn am ganiatâd i ddefnyddio ei gân, Carlo, ac i gasglu "effemera a phosteri ac ati".
"Mae rhywun yn ymwybodol bod nhw yn gweithio o fewn fframwaith hanesyddol, ffeithiol, ac yna yn cymryd tipyn o drwydded wedyn i ddefnyddio eu dychymyg," meddai.
Esiampl o hynny ydy'r ffordd mae'r Tywysog i'w weld yn y ddrama yn addasu ei araith yn Gymraeg cyn yr arwisgiad i bwysleisio'r angen i gydnabod Cymru a'r iaith Gymraeg. Yn 1969, cadwodd at y sgript.
Tra bod gwrthwynebiad i bresenoldeb y Tywysog i'w gweld yn ystod y bennod - wrth i Charles gyrraedd Aberystwyth, ac wrth i'w goets deithio drwy Gaernarfon ar ei ffordd i'r castell - mae Mr Iwan yn dweud iddo ddisgwyl gweld mwy o'r "gwrthdaro".
"Baswn i yn disgwyl gweld mwy o'r gwrthdaro, a'r torfeydd yn protestio yn erbyn yr arwisgo. Ond dewison nhw ganolbwyntio ar yr iaith, sydd yn ddiddorol ac yn beth da o safbwynt y Gymraeg.
"Mae 'na filiynau o bobl yn mynd i fod yn ymwybodol o fodolaeth yr iaith, fel iaith fyw, am y tro cyntaf erioed."
Penderfyniad 'dewr'
Dywedodd yr actor sy'n chwarae rhan Tedi Millward, Mark Lewis Jones ei fod yn "meddwl ei fod o'n ofnadwy o bwysig bod Netflix 'di bod mor ddewr â 'di rhoi gymaint o Gymraeg".
"Pan ges i'r sgript yn y lle cyntaf oedden nhw'n dweud 'Mi fydd y golygfeydd yma rhwng Silvia a Tedi a phob dim sy'n digwydd yn y tŷ yn y Gymraeg ac mi fydd 'na is-deitlau Saesneg', felly pan 'da chi'n mynd ar y safle lle mae'r gyfres 'Tywysog Cymru' ydy'r teitl.
"Does 'na ddim problem o gwbl gyda Netflix, ma' nhw wedi bod yn ddewr iawn yn fy marn i.
"Mae'n braf iawn clywed yr iaith Gymraeg, 'efo is-deitlau, dros y byd. Mae'n ffantastig."
Ychwanegodd: "Mi oedd Tedi ar y pryd yn erbyn yr hyn oedd Tywysog Cymru yn ei gynrychioli - ond ddim y person ei hunan.
"Yn y bennod yma maen nhw'n dod at ei gilydd, ac mae 'na barch yna yn y diwedd. Mae 'na gynhesrwydd rhyngddyn nhw, ac mae hynny'n beth braf iawn i'w chwarae."
'Charles yn ymwybodol iawn'
Mae Mr Iwan yn dweud ei fod yn hoff o'r gyfres, ac fe wyliodd y penodau newydd o fewn diwrnodau iddynt gael eu rhyddhau ar Netflix ar 17 Tachwedd.
A thra bod y gyfres wedi addasu hanes i greu drama, mae'r ymgyrchydd iaith, wnaeth gwrdd â'r Tywysog yn gynharach eleni, yn dweud ei fod yn ymwybodol iawn o'r teimladau cryf sy'n bodoli.
"Ar ôl y sgwrs ges i efo Charles, mae'n wir i ddweud ei fod yn ymwybodol iawn, iawn o'r Gymraeg a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg, a dyheadau cenedlaetholwyr Cymru.
"Erbyn hyn mae e'n ymwybodol iawn, iawn o'r sefyllfa wleidyddol ac ieithyddol yng Nghymru ac yn awyddus i gael ei weld fel hynny."
Mae Mr Iwan yn cyfaddef iddo fod "ychydig bach yn siomedig" mai'r iaith yn hytrach na'r gwrthwynebid i'r arwisgo sy'n cymryd blaenoriaeth yn y bennod, ond mae'n dweud bod cymeriad Dr Millward yn cyfleu'r anfodlonrwydd yn effeithiol.
"Mi allan nhw wedi canolbwyntio ar lwyddiant mawr yr arwisgo a phortreadu'r gwrthwynebiad fel rhyw fath o griw bach o fyfyrwyr gwallgof. Ond trwy bortreadu'r ochr arall yn gymeriad Tedi Millward maen nhw wedi rhoi mwy o gadernid i'r peth.
"Mae'n dangos tipyn bach mwy o barch i'r ffaith bod cenedlaetholdeb yn anniddig ynglŷn â rôl y frenhiniaeth. Mi allai fod wedi bod llawer iawn gwaeth, mewn geiriau eraill."
Mae'r drydedd gyfres o The Crown ar Netflix.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2019