Siom am gau Eglwys y Blygain Fawr ym Maldwyn

  • Cyhoeddwyd
Eglwys Llanfihangel yng Ngwynfa
Disgrifiad o’r llun,

Y rheswm sy'n cael ei roi am gau'r eglwys ydy cyflwr yr adeilad

Mae 'na sioc a siom yn dilyn y newyddion bod Eglwys Llanfihangel yng Ngwynfa ym Maldwyn i gau oherwydd cyflwr yr adeilad.

Mae'r emynydd Ann Griffiths wedi ei chladdu ar y safle, a dyma gartref y Blygain Fawr sy'n cael ei chynnal bob Ionawr.

Y Blygain Fawr nesaf ar 12 Ionawr fydd y digwyddiad olaf i'w gynnal yn yr eglwys, ond bydd y fynwent yn parhau ar agor ar ôl hynny.

Fe gafodd Ann Griffiths ei bedyddio yn yr eglwys, ac yma hefyd y bu iddi briodi.

Yn dilyn ei marwolaeth yn 1805 cafodd ei chladdu yn y fynwent a hithau ond yn 29 oed.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr emynydd Ann Griffiths ei chladdu ar dir yr eglwys wedi ei marwolaeth yn 1805

Dywedodd yr arbenigwr ar ganu gwerin, Arfon Gwilym ei fod wedi ei siomi'n fawr gyda'r newyddion mai'r Blygain Fawr nesaf fydd yr olaf yn yr eglwys.

"Mae'n newyddion drwg iawn, iawn. Dwi'n teimlo'n reit isel am y peth oherwydd bod y lle yma yn golygu cymaint," meddai.

"Mi fyddai 'na ambell un yn troi yn ei fedd o glywed y newyddion.

"Mae o'n glec oherwydd mae Llanfihangel yng Ngwynfa wedi dod yn rhyw fath o symbol neu'n bencadlys y traddodiad Plygain Fawr.

"Heb Eglwys Llanfihangel mae'n anodd iawn dychmygu'r peth."

Dywedodd llefarydd ar ran Esgobaeth Llanelwy bod y gymuned wedi gwneud y penderfyniad wedi iddi ddod i'r amlwg bod costau atgyweirio'r adeilad yn ormod i'r gymuned ei godi.

"Mae'r Esgobaeth yn deall bod cau eglwys yn benderfyniad anodd i unrhyw gymuned ac rydyn ni'n ymestyn ein cefnogaeth i bawb sy'n cael eu heffeithio," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol