Y flogiwr sy’n helpu pobl ag awtistiaeth

  • Cyhoeddwyd
Daniel Morgan JonesFfynhonnell y llun, Daniel Morgan Jones

Mae gan Daniel Morgan Jones dros 100,000 o ddilynwyr ar ei sianel YouTube, The Aspie World, lle mae'n cyhoeddi fideos i helpu pobl i ddeall awtistiaeth o bersbectif person awtistig.

Mae'n byw gyda'i deulu yng Nghaergybi.

Pryd ges di ddiagnosis o Aspergers ac ADHD?

Cefais ddiagnosis o syndrom Asperger (math o awtistiaeth), ADHD (attention deficit hyperactivity disorder) ac OCD (obsessive compulsive disorder) pan o'n i'n 26 oed. Daeth hyn ar ôl blynyddoedd o ddiagnosys eraill fel agoraffobia, dyslecsia, gorbryder a'r holl bethau eraill sy'n gallu dod law yn llaw gyda chyflwr sbectrwm awtistiaeth.

Daeth yr holl bethau yma gyda'i gilydd i'r pwynt yn fy mywyd lle roedd y gweithwyr proffesiynol yn gallu rhoi diagnosis o awtistiaeth i fi.

Mae'n eithaf anhygoel i fod yn 26 oed ac yna cael diagnosis awtistiaeth a pheidio â gwybod beth i'w wneud a ble i fynd. Maen nhw'n rhoi'r diagnosis i ti ond wedi hynny does dim cymorth o ran beth i wneud ar ôl hynny.

Ffynhonnell y llun, Daniel Morgan Jones
Disgrifiad o’r llun,

'Mae awtistiaeth yn anhwylder cyfathrebu yn y bôn'

Rwyt ti'n YouTuber llwyddiannus - beth wnaeth iti ddechrau postio fideos am Asperger's ac ADHD? Wyt ti'n gwneud bywoliaeth o'r gwaith?

Dechreuais fy sianel YouTube bron ar ddamwain. Es i i edrych ar y rhyngrwyd ar ôl cael y diagnosis, a dod ar draws fideos oedd ddim yn bositif o gwbl - 'oedden nhw'n ddigalon a'r pobl ddim yn ddifyr i'w gwylio.

Felly penderfynais greu fideo fy hun - oedd e'n ofnadwy ond dyna oedd fy fideo cyntaf yn siarad am awtistiaeth o fy safbwynt i ac roedd yn rhoi insight bach i bobl mewn ffordd bositif. Roedd hynny'n ddiddorol iawn.

'Oedd mwy a mwy o bobl yn gwylio fy fideos a mwy o bobl yn tanysgrifio i'm sianel felly dechreuais ennill arian drwy hysbysebion a deals brandio a phethau felly ac yna daeth yn swydd rhan amser ac erbyn hyn mae'n swydd llawn amser.

Nawr mae fel busnes i'w redeg ac mae'n anhygoel. Dw i'n teimlo boddhad mawr mod i'n gallu gwneud hyn oherwydd ei fod yn helpu pobl. Mae hynny'n rhodd mawr.

Pa effaith mae Aspergers yn ei gael arnat fel gŵr a fel tad?

Mae cael partner a babi'n medru bod yn anodd ac yn straen i unrhyw un ar unrhyw adeg - y cyfrifoldebau a'r holl bethau hynny. I mi, mae'r pethau hynny ychydig yn anoddach ar brydiau oherwydd y problemau cyfathrebu.

Mae awtistiaeth yn anhwylder cyfathrebu yn y bôn ac mae'n achosi problemau gyda'r ffordd chi'n deall gwybodaeth a data er mwyn cyfathrebu.

Mae'n anodd iawn i aros ar y trywydd iawn gyda rhai sgyrsiau a gwybod os ydych chi'n gwneud y peth iawn neu'r peth anghywir. Mae'n anodd i ddeall y senarios mewn byd llwyd, pan fydd yr hyn chi'n ei feddwl mewn du a gwyn.

Mae'n medru bod yn anodd ac yn heriol iawn i fi, ond dw i wrth fy modd â her felly mae'n cŵl.

Ffynhonnell y llun, Daniel Morgan Jones
Disgrifiad o’r llun,

'Dwi'n teimlo mod i'n ychwanegu gwerth at fywydau pobl.'

Pa effaith mae dy flogio wedi'i gael ar dy dilynwyr?

Mae'n deimlad anhygoel i weld yr effaith mae fy ngwaith yn cael ar bobl. Dw i'n derbyn llwyth o lythyron gan rieni a phobl sy' ar y sbectrwm yn dweud diolch yn fawr iawn a bod y wybodaeth ar fy fideos wedi agor eu llygaid. Mae rhai'n dweud fod y canllaw diagnosis wedi helpu nhw i gael diagnosis swyddogol.

Neu mae rhai'n dweud bod y fideos wedi helpu nhw i sylweddoli bod eu mab neu ferch ar y sbectrwm ac nid jest yn ymddwyn yn wael. Pan dwi'n cael yr adborth yma dw i'n teimlo - 'wow, dyna'n union pam dw i'n gwneud hyn oherwydd dw i eisiau helpu pobl'.

Ydy hi'n anodd siarad yn agored ac yn gyhoeddus am dy brofiadau gydag Aspergers ac ADHD?

Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n anodd siarad amdano erbyn hyn oherwydd does dim ots gen i beth mae pobl yn feddwl amdanaf. Dwi'n teimlo mod i'n ychwanegu gwerth at fywydau pobl.

Y rheswm nad ydw i'n gweld hi'n anodd yw oherwydd byddwn i wedi hoffi cael y wybodaeth yma pan o'n i'n tyfu i fyny a byddwn i wedi hoffi i'm rhieni gael y wybodaeth yma pan oeddwn yn tyfu i fyny. Felly i mi mae'n hawdd i wneud hyn oherwydd dw i'n gwybod pam dw i'n gwneud e.

Hefyd o ddiddordeb