'Marwolaeth dyfarnwr gafodd ei daro gan bêl criced yn ddamwain'
- Cyhoeddwyd
Roedd marwolaeth dyfarnwr criced gafodd ei daro ar ei ben yn ystod gêm yn ddamweiniol, yn ôl crwner.
Cafodd John Williams, 80 o Hundleton yn Sir Benfro, ei daro yn ystod gêm rhwng Penfro ac Arberth ar 13 Gorffennaf.
Clywodd cwest yn Hwlffordd bod Mr Williams wedi dioddef anaf difrifol gan bêl criced yn y digwyddiad.
Aeth y dyfarnwr yn anymwybodol wedi'r digwyddiad, a dywedodd y crwner Mark Layton na wnaeth ddeffro cyn ei farwolaeth.
Rhoi mewn coma
Cafodd Mr Williams ei anafu yn ystod gêm yn ail adran cynghrair y sir.
Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd a'i roi mewn coma.
Pythefnos yn ddiweddarach cafodd ei gludo yn ôl i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, ond bu farw pythefnos yn ddiweddarach.
Roedd ei feibion yn y cwest ddydd Iau.
Fe wnaeth y crwner gofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol, gan gydymdeimlo gyda'r teulu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2019
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2019