Cymru i ddarganfod eu gwrthwynebwyr grŵp yn Euro 2020
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Cymru'n darganfod pwy fyddan nhw'n wynebu yn Euro 2020 pan fydd y grwpiau'n cael eu dewis brynhawn Sadwrn mewn seremoni yn Bucharest.
Llwyddodd tîm Ryan Giggs i sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth ar ôl trechu Hwngari o 2-0 yn eu gêm ragbrofol olaf yn gynharach yn y mis.
Maen nhw eisoes yn gwybod mai dim ond dewis o ddau grŵp y gallen nhw fod ynddi - Grŵp A neu B.
Bydd y gystadleuaeth rhwng 12 Mehefin a 12 Gorffennaf yn cynnwys 24 o dimau, wedi'u rhannu yn chwe grŵp o bedwar - yr un drefn ac y cafwyd yn Euro 2016.
Gwlad Belg eto?
Mae 20 o'r timau fydd yn cystadlu yn Euro 2020 eisoes wedi'u cadarnhau, a bydd pedwar arall yn ymuno â nhw yn dilyn y gemau ail gyfle ym mis Mawrth.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chwarae ar draws 12 dinas wahanol yn Ewrop, gyda'r gwledydd hynny yn cael mantais gartref yn y gemau grŵp os ydyn nhw wedi cyrraedd.
Oherwydd hynny, a'r ffaith bod Cymru ymhlith y detholion isaf, fe fyddan nhw unai'n cael eu dewis yng Ngrŵp A, gyda gemau yn Rhufain a Baku, neu Grŵp B ble byddan nhw'n chwarae yn Copenhagen a St Petersburg.
Maen nhw eisoes yn gwybod mai Denmarc, Rwsia a Gwlad Belg fydd eu gwrthwynebwyr os ydyn nhw'n cael eu dewis yng Ngrŵp B.
Fe wnaeth Cymru golli ddwywaith yn erbyn Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd llynedd, ond fe wnaethon nhw drechu Rwsia a Gwlad Belg y tro diwethaf iddyn nhw eu hwynebu - a hynny yn Euro 2016 wrth gwrs.
Os ydyn nhw yng Ngrŵp A bydd Cymru'n wynebu'r Eidal, unai Ffrainc, Gwlad Pwyl, Y Swistir neu Croatia o Bot 2, ac unai Portiwgal, Twrci, Sweden, Awstria neu'r Weriniaeth Tsiec o Bot 3.
Bydd y seremoni yn Rwmania yn dechrau am 17:00, gyda phob un o'r chwe grŵp yn cael eu dewis yn eu tro.
Yn ogystal â darganfod eu gwrthwynebwyr, bydd Cymru hefyd yn cael gwybod beth fydd trefn y gemau grŵp hynny, gyda'r amseroedd yn cael eu cadarnhau yn ddiweddarach.
Bydd y ddau dîm uchaf ym mhob grŵp, yn ogystal â phedwar o'r timau sy'n gorffen yn drydydd, yn mynd drwyddo i rownd yr 16 olaf.
Mae ffeinal a rownd gynderfynol Euro 2020 yn cael eu chwarae yn Wembley, Llundain, ac mae dinasoedd Glasgow a Dulyn hefyd ymhlith y dwsin sydd yn cynnal rhai o gemau'r gystadleuaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2019