Cyn-reolwr cartrefi plant yn euog o gam-drin hanesyddol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 78 oed wedi ei gael yn euog o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn bechgyn oedd yn ei ofal.
Penderfynodd rheithgor fod John Allen yn euog o wyth o droseddau yn erbyn pum bachgen, yr ieuengaf yn 13 ar y pryd.
Mae Allen, cyn-reolwr cartrefi plant yn y gogledd, eisoes yng nghanol dedfryd carchar am oes am gam-drin plant.
Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 8 Ionawr.
Cafodd ei ddisgrifio yn y llys fel pedoffeil rheibus.
Roedd Allen, oedd yn gyfrifol am gartrefi Bryn Alyn yn ardal Wrecsam, wedi gwadu 20 o gyhuddiadau'n ymwneud ag wyth o fechgyn dan ei ofal rhwng 1976 a 1992.
Eisoes yn y carchar
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ei fod wedi ei gael yn euog ddwywaith yn barod mewn llys am gam-drin plant.
Yn 2014 cafodd ei garcharu am o leiaf 11 mlynedd am 33 o droseddau rhyw.
Fe wnaeth pob un o'r dioddefwr heblaw am un yn yr achos presennol roi tystiolaeth ar ôl i Allen gael ei ddyfarnu yn euog yn 2014.
Roedd Allen wedi pledio'n ddieuog i 16 o gyhuddiadau o ymosod yn anweddus, dau gyhuddiad o weithredoedd rhyw anghyfreithlon, a dau o geisio cyflawni gweithredoedd rhyw eraill.
Clywodd y rheithgor gyfweliad gydag achwynydd, sydd bellach yn ei 50au, ddywedodd ei fod wedi cael ei lusgo i swyddfa Allen yn dilyn sgarmes a'i ddal yn sownd i'r llawr.
Dywedodd mai'r peth nesaf mae'n ei gofio yw Allen yn rhwygo'i ddillad oddi arno cyn ymosod yn rhywiol arno.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2014