Dathlu 50 mlynedd o ganolfan farchogaeth i'r anabl
- Cyhoeddwyd
Wrth gyrraedd eu pen-blwydd yn 50, mae aelodau'r Gymdeithas Marchogaeth i'r Anabl ym Môn yn galw am fwy o wirfoddolwyr i sicrhau dyfodol y mudiad.
Mae'r ymdrechion ar yr ynys i helpu rhai ag anableddau ac anghenion dysgu i farchogaeth wedi dechrau cyn hynny - bron i 60 mlynedd yn ôl.
Maen nhw'n cynnal sesiynau wythnosol i bob oedran yng Nghanolfan Farchogaeth Môn ger Dwyran.
Mae ganddyn nhw aelodau mor ifanc â phedair oed ac mae eu gwirfoddolwr hynaf yn 94 oed ac wedi bod yn helpu ers 50 mlynedd.
'Dibynnu ar wirfoddolwyr'
Dywedodd Sara Jones-Williams, cadeirydd y gymdeithas ym Môn, bod y gwasanaeth - sydd ar gael am ddim - yn "bwysig iawn i'r ysgolion a'r bobl anabl sydd yn Sir Fôn".
"'Da ni'n dibynnu'n hollol ar wirfoddolwyr ac weithiau mae hynny'n dipyn o boen, bod gynnon ni ddim digon," meddai.
"Mae o'n waith caled. Mae rhai o'r marchogion angen tri o bobl i helpu nhw. Mi fasa ni wrth ein boddau'n cael mwy o wirfoddolwyr."
Ar ben dysgu sut i farchogaeth, mae'r unigolion yn datblygu sgiliau ehangach.
"Mae 'na sgiliau adnabod lliwiau a llythrennau sydd ganddon ni o gwmpas yr arena," meddai Sara.
"Sut i edrych ar ôl ceffyl, disgwyl eu tro. Sut i ddweud diolch a chyfathrebu.
"'Da ni'n cyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg, a hefyd Makaton, Braille a Pecs."
Mae Sara ei hun yn gwirfoddoli ers 36 o flynyddoedd ac yn dweud bod hi'n dal wrth ei bodd.
"Does 'na'r un diwrnod yr un fath," meddai. "Hefyd, yr hwyl 'da ni'n ei gael. Mae'n bwysig i ni fod 'na hwyl bob amser tra 'da ni'n dysgu."
Un o'r gwirfoddolwyr iau ydy Gethin Williams, sy'n arwain y ceffylau a siarad gyda'r unigolion er mwyn gwneud iddyn nhw deimlo'n ddiogel a hyderus ar y ceffyl.
"Hefo pobl sydd ag anableddau, maen nhw'n cael lot o security os 'da chi'n siarad efo nhw," meddai.
"Mae'n brofiad arbennig i mi hefyd. Mae'n helpu efo gwaith ysgol ac mae'n gwneud i chi deimlo'n dda ar ddiwedd y dydd."
Gwobr genedlaethol
Yn ogystal â mynychu'r sesiynau wythnosol, mae rhai o'r unigolion yn cystadlu.
Yn eu plith Elin Owen, 31 oed, sy'n ddall ers ei geni.
Ar ôl ailgydio mewn marchogaeth ym mis Chwefror, mae hi wedi ennill ar lefel genedlaethol.
"Ges i gyfle i fynd i'r cystadlaethau rhanbarthol ym mis Mai - o'n i ond eisiau mynd am yr adborth," meddai.
"Nes i fyth freuddwydio baswn i'n cael mewn i'r cystadlaethau cenedlaethol ym mis Gorffennaf ac wedyn ennill y prawf cerdded i bobl sydd ddim yn gweld.
"Dwi'n marchogaeth o gwmpas ac wedyn mae pobl yn galw'r llythrennau pan dwi'n mynd heibio nhw fel 'mod i'n gwybod pa lythrennau dwi angen cael atyn nhw.
"Mewn dressage ma' gwneud cylchoedd yn bwysig a do'n i erioed wedi gweld cylch ac felly gweithio allan sut i wneud hynny'n annibynnol.
"Mae'n golygu lot 'mod i'n gallu dod yma i wneud rhywbeth yn annibynnol a dwi'n edrych 'mlaen i weld pa gyfleoedd eraill fydd yn dod yn y blynyddoedd nesa'."