Gobeithio hybu twf y diwydiant awyrofod yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Uwch-Ymchwil Gweithgynhyrchu, BrychdynFfynhonnell y llun, AMRC
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Uwch-Ymchwil Gweithgynhyrchu, Brychdyn

Fe fydd Arddangosfa Awyrofod Cymru yn cael ei chynnal am y tro cyntaf ddydd Iau a hynny ym Mrychdyn, Sir Y Fflint.

Bydd yn dod ag arweinwyr y chwe chwmni mwyaf yn y maes at ei gilydd, gan gynnwys Airbus a BAE Systems, gyda'r nod o greu mwy o gyfleoedd i gwmnïau llai ac i greu mwy o swyddi.

Mae gan rhai o gwmnïau awyrofod mwyaf y byd ganolfannau yng Nghymru.

Eisoes mae cwmnïau gweithgynhyrchu a chwmnïau cynnal a chadw yn cyflogi mwy na 23,000 o bobl yma, ac mae Cymru'n gartref i tua 10% o ddiwydiant awyrofod y DU.

Wrth fynd i'r arddangosfa gyntaf yma, mae nifer o'r cwmnïau llai yn gobeithio tyfu eu busnesau drwy ddod yn gyflenwyr i'r cwmnïau mawrion.

Mae'r trefnwyr - Awyrofod Cymru, sef corff sy'n cynrychioli'r holl brif gwmnïau yn y diwydiant yng Nghymru - yn ffyddiog y bydd y digwyddiad yng Nghanolfan Uwch-Ymchwil Gweithgynhyrchu ym Mrychdyn yn gallu adeiladu ar lwyddiant y diwydiant.

Mae disgwyl y bydd 80 o gwmnïau yn rhan o'r arddangosfa, gydag oddeutu 300 o gynrychiolwyr.