Dyn yn yr ysbyty ar ôl cael ei anafu â chyllell yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn dweud ei fod wedi bod yn "delio gyda digwyddiad" ar Heol y Ddinas yng Nghaerdydd nos Wener.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans bod un dyn wedi'i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru wedi iddo gael ei anafu â chyllell.
Yn ôl llygad dystion fe wnaeth yr heddlu gau rhan o'r ffordd rhwng tafarn y Roath Park hyd at dafarn y Royal George oherwydd y digwyddiad.
Roedd y llygad dyst, sy'n newyddiadurwr gyda'r BBC, yn teithio ar fws ar y stryd am tua 18:30 pan gafodd ei stopio wrth i gerbydau'r heddlu gyrraedd.
"Roedd yr heddlu'n cyrraedd... nifer o geir yn cyrraedd gyda heddlu arfog ynddyn nhw... roedd hi'n brysur iawn yn gyflym iawn," meddai Harry Bligh.
"Roedd rhai o'r plismyn arfog yn rhedeg i lawr stryd gerllaw gan ddweud wrthon ni am adael y safle.
"Roedd llawer o bobl o gwmpas... mae'n ardal eitha' prysur."