Achub 12 rhwyfwr oddi ar arfordir Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Aberystwyth HarbourFfynhonnell y llun, IAN CAPPER | Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y rhwyfwyr eu cludo'n ôl yn ddiogel i harbwr Aberystwyth

Fe gafodd 12 rhwyfwr eu hachub oddi ar arfordir Aberystwyth brynhawn Sadwrn ar ôl mynd i drafferthion yn y môr.

Roedd yn rhaid i aelodau o fad achub Aberystwyth adael ffair Nadolig ar frys er mwyn ymateb i'r alwad.

Fe gafodd y criwiau achub eu galw toc cyn 15:30.

Llwyddodd y criw i achub y 12 rhwyfwr oedd yn "oer iawn" ac fe gludwyd nhw'n ôl yn ddiogel i harbwr Aberystwyth.