Pobl wedi 'ffieiddio fy mod yn anabl ac yn feichiog'
- Cyhoeddwyd
Mae un o athletwyr Paralympaidd amlycaf Cymru a'r DU wedi disgrifio'r adeg y cafodd ei sarhau yng Nghaerdydd gan ddynes oedd yn ffieiddio ei bod yn cael babi.
Roedd y Farwnes Tanni Grey-Thompson 37 wythnos yn feichiog pan gafodd ei stopio gan fenyw a ofynnodd iddi: "Sut wnaethoch chi feichiogi?"
Mewn sgwrs ar gyfer podlediad Stumps, Wheels and Wobblies, dywedodd yr athletwraig a gafodd ei geni yng Nghaerdydd gyda'r cyflwr spina bifida: "Rwy'n cofio sgrechian arni yn y stryd: 'Wrth gael rhyw. Sut oeddech chi'n tybio imi feichiogi?'
"Atebodd hithau: 'O, mae hynny'n ffiaidd'."
Roedd hi eisoes wedi ennill naw medal aur Paralympaidd cyn cael ei merch, Carys, ac fe enillodd dwy arall wedi hynny cyn ymddeol yn 2007.
'Ddylech chi ddim cael plant'
Dywedodd bod pobl yn cael trafferth deall sut fyddai ei chorff yn addasu, a'u bod yn barod iawn i ddatgan hynny wrthi.
"Golles i gyfrif faint o bobl ofynnodd sut wnes i feichiogi," meddai.
"Y peth cyntaf ges i gynnig y tro cyntaf ges i fy sganio oedd erthyliad oherwydd roedd pobol yn awgrymu: 'Ddylech chi ddim cael plant'.
"Gawson ni sgwrs [gydag aelod o staff meddygol] a oeddem ni'n fwriadol yn trio cael babi, ac roedd gan yr unigolyn safbwyntiau eithaf cymhleth ynghylch anableddau - [agwedd] y gallwn ni fridio."
"Roedd yn rhaid i mi ateb llawer o gwestiynau ynghylch beth fyddech chi'n gwneud petai'r babi'n anabl.
"Dywedais i y byddwn yn gwneud yn siŵr bydda ganddyn nhw gadair olwyn wirioneddol cool, yn wahanol i'r un erchyll ges i tan roeddwn i'n 15!"
Mae Grey-Thompson wedi trafod y pwnc o erthylu babi anabl yn gyhoeddus yn y gorffennol, gan ddweud y byddai ei rhieni ei hun "mwyaf tebyg wedi dod â'r beichiogrwydd i ben" petawn nhw wedi gwybod am ei hanabledd hithau.
Dywedodd hefyd yn y podlediad ei bod yn cytuno bod disgrifio athletwyr anabl yn 'ysbrydoliaeth' yn bennaf ar sail eu hanabledd, yn gallu bod yn sarhaus.
"Mae bron fel bod angen i rywbeth dramatig neu drawmatig fod wedi digwydd i chi, i gyfiawnhau eich sefyllfa fel athletwr anabl," meddai.
"Mae yna lawer o athletwyr sydd wedi bod trwy ryfel a cholli rhannau o'u cyrff mewn ffyrdd erchyll.
"[Ond] rwy'n cael trafferth dygymod os ydy'n cefndir yna yn rhan o'r sylw i'r maes chwaraeon oherwydd mae'n tanlinellu neges bod rhaid i chi fod yn ysbrydoliaeth, a dydy pob person anabl ddim yn ysbrydoliaeth.
"Dydw i ddim yn codi bob bore a datgan: 'Rydw i am fod yn ysbrydoliaeth heddiw'."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2016