Annette Bryn Parri - ei gyrfa a'i bywyd

  • Cyhoeddwyd
Annette Bryn Parri

Mae Annette Bryn Parri yn gyfeilyddes sydd wedi teithio'r byd yn gweithio gydag unawdwyr, grwpiau a chorau amrywiol.

Mewn rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymru ar 22 Rhagfyr, mae'n sgwrsio gyda theulu a chyfeillion, ac yn hel atgofion am ei gyrfa a'i bywyd fel cyfeilyddes ac hyfforddwr dros y blynyddoedd.

Ar Cymru Fyw, mae'n cofio cyfarfod y Tywysog Charles a Diana, derbyn canmoliaeth Andrew Lloyd Webber a chael gweithio gyda'r 'grŵp gorau mae Cymru erioed wedi ei weld'.

Dyddiau cynnar - y biano gyntaf

Dwi'n cofio Mam a Dad yn gofyn i mi beth oeddwn i eisio Nadolig, ac yn dair oed, dyma fi'n dweud‚ 'Panano.' Ac mi gesh i 'banano' ac mae wedi bod yn rhan mawr o'm mywyd i hyd heddiw.

Mae'r piano yn bwysig iawn, dwi wedi dod ar draws ffrindiau â cherddoriaeth - miwsig yw fy mywyd i.

Person adra' ydw i

Heledd, Ynyr a Bedwyr ydy enwau'r plant, a rŵan maen nhw yn eu 30au, i gyd o nghwmpas i yn yr ardal yma, diolch am hynny, mae'n braf cael bod efo fy nheulu.

Ffynhonnell y llun, Annette Bryn Parri
Disgrifiad o’r llun,

Annette a'i gŵr Gwyn, gyda'u plant Heledd, Ynyr a Bedwyr - ar achlysur bedydd Bedwyr

Mi oedd gynno fi ddewis, unai gyrfa biano neu i fod yn fam a byw yma yng Nghymru. Mae 'na lawer un 'di gofyn i fi 'pam bo' fi wedi dod yn ôl'? 'Pam na fyswn i wedi cario mlaen gyda fy mhiano'? Ond person adra' ydw i.

Hogan Deiniolen ydw i, dwi'n hoffi bod yn wraig, yn fam ac yn nain a dyna sy'n 'neud fi'n hapus.

Hogia'r Wyddfa - 'Y grŵp gora' mae Cymru erioed wedi ei weld'

Ffynhonnell y llun, Annette Bryn Parri
Disgrifiad o’r llun,

Annette gyda Elwyn, Arwel a Myrddin - Hogia'r Wyddfa

Fe wnes i gyfansoddi Crist Bendigedig yn sbeshal i Arwel, Myrddin ac Elwyn, Hogia'r Wyddfa. Mi oedd y grynoddisg ddwytha' wnaethon ni recordio gyda'n gilydd, Rhaid i Ni Ddathlu, yn golygu lot fawr i mi.

Dwi'n cofio'r noson gyntaf i fi gyfeilio i Hogia'r Wyddfa oedd ym Mhorthaethwy, Ynys Môn, a chyngerdd i goffáu Bedwyr Lewis Jones.

Oedd o'n bwysig i fi, fel cyfeilydd, am bod Richard [Richard Huw Morris, cyn-gyfeilydd y grŵp] wedi bod yn cyfeilio cyhyd, ac mi oedd gan [Hogia'r Wyddfa] steil eu hunan, a dyna sut oeddan nhw mor boblogaidd.

Y grŵp gora' mae Cymru erioed wedi ei weld. A dwi'n dweud hynny o nghalon. Braint i mi oedd cael cyfeilio [iddyn nhw.]

Dwi'n gwerthfawrogi yr amser ges i, mae o'n drysor wnai byth anghofio.

Disgrifiad o’r llun,

Annette gyda'i Mam a'i chwiorydd, Olwen a Marina

'Serenade gan Schubert ydy ffefryn fy Mam'

Beth sy'n rhyfeddol i mi, ydy gymaint mae Schubert yn fy mywyd i, a ma' nhw'n dweud bod plentyn yn y groth yn gallu clywed y byd tu allan.

[Roedd Mam Annette wedi dysgu'r nodau i Serenade gan Schubert ar y piano, a'r gân honno yn unig, ar ôl gwylio'r ffilm The Elephant Walk, pan oedd yn feichiog gydag Annette.]

Mae Schubert wedi bod yn arwr i fi, fel cyfansoddwr, ac yn rhan fawr mawr o'm mywyd i. Mynd i'r ysgol fach, yr emyn oeddan ni'n ganu oedd Impromptu gan Schubert, wedyn Ysgol Brynrefail, y gwaith clasurol cyntaf ges i oedd Mass in G Schubert, wedyn es i'r coleg i wneud fy final a neud Opus 90, Schubert wedyn yn fy mhriodas cael Sanctus, Schubert.

Y peth rhyfedda un, yn ddiweddar, oedd fy mheiriant golchi wedi torri. A daeth Gwyn [y gŵr] ag un newydd adra'. Dyma ni'n golchi, a dyma sŵn yn dod o rywla, a miwsig Y Brithyll gan Schubert yn gorffen fy mheiriant golchi fi bob dydd!

Ffynhonnell y llun, Annette Bryn Parri
Disgrifiad o’r llun,

Y dair chwaer, Olwen, Marina ac Annette gyda'u tad

'Atgofion melys o Dad'

Wyt ti'n Cofio'r Nos Nadolig oedd ffefryn Dad. Oeddwn i a fy nwy chwaer, Olwen a Marina yn ymuno yn y gytgan efo fo.

Oedd o wrth ei fodd yn cael canu efo ni. Bysa'n Dolig ni ddim r'un fath pan o'n ni'n fach heblaw bod Dad yn canu'r gân yma, a dyna pam mae'n agos at fy nghalon i.

Fi ac Aled Jones, Palas Kensington ac Andrew Lloyd Webber

Dwi 'di dysgu disgyblion bendigedig ar hyd y blynyddoedd. Fe ges i un bachgen sydd yn enwog iawn iawn rŵan, sef Aled Jones. Fues i'n dysgu'r piano i Aled am flynyddoedd, ond yn dair ar ddeg wrth gwrs, oedd o'n serennu fel boy soprano.

Dwi'n cofio fo'n gofyn i fi a faswn i'n cyfeilio iddo fo mewn cyngherddau, a pleser oedd hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Aled Jones yn ganwr ifanc

Dyma un gwahoddiad yn dŵad i ni fynd i Kensington Palace. Dwi'n cofio prynu sgert silk ddu a cot silk ddu a blows ffrils hufen. O'n i'n meddwl mod i'n million dollars!

A chael Rolls Royce o'r gwesty i Kensington, dim ond dau oedd yn y gynulleidfa. Sef Charles a Diana.

Dyma ni'n perfformio rhyw bump cân, a dyma ni'n gorffen a cael eistedd wedyn ar y soffa yn y palas. Aled, fi a Nest, mam Aled. Cawson ni sgwrs, a'r ddau yn glên iawn iawn, a'r ddau â diddordeb mawr yn Aled.

Yna Charles yn gofyn i fi, 'What would you like to drink'? A dyma fi'n dweud 'I don't mind'. 'Well, I'm going to have a G&T', medda fo. 'I'll join you,' medda fi.

Dyma Nest a fi yn cael G&T ac Aled yn cael dŵr. Ac mi wnaeth Aled droi y dŵr ar y llawr, Nest druan yn goch i gyd, a dyma Diana yn codi, ac yn rhwbio ei throed ar y dŵr yn dweud "don't worry Aled, the boys do that all the time."

Aethon ni wedyn i'r Dorchester i gael bwyd, mewn Rolls Royce glas. Beth sy'n rhyfeddol, o'n ni'n mynd trwy Llundain, ac oedd tâp Hogia'r Wyddfa yn y car.

Dwi 'di dweud y stori wrth Hogia'r Wyddfa a maen nhw wedi gwirioni eu bod nhw yn mynd mewn Rolls Royce trwy ganol Llundain i'r Dorchester!

Profiad bythgofiadwy

Bore wedyn cael mynd i fflat Andrew Lloyd Webber, ac o'n i'n nerfus iawn iawn. Oedd o wedi gofyn i Aled ganu Memories [cân enwog Lloyd Webber]. O'n i 'di 'neud trefniant. O'n ni'n mynd fyny'r lifft ac Andrew Lloyd Webber yn dod i'r drws. Oedd o'n glên iawn iawn.

Ac wrth i ni berfformio, dyma ddynas yn dod â tywal rownd ei chorff, Sarah Brightman [gwraig Andrew Lloyd Webber ar y pryd], a dyma hi'n dweud 'sorry I had to come from the shower, it was so beautiful'.

Ond yr hyn wnaeth fy niwrnod i, oedd bod Andrew Lloyd Webber wedi dod ata' i, ac ysgwyd fy llaw a dweud 'I love your piano arrangement on my song'.

O'n i isho crio a bod yn onest. O'n i'n dod o 'na fel tasa rhywun di rhoi lwmp o aur i mi, wnai byth anghofio adag yna.

Mae Memories yn golygu lot fawr i mi. Wastad os dwi'n chwara' Memories neu Atgofion, mi fyddai'n 'neud y darnau yma i bawb sy' wedi bod yn bwysig iawn yn fy mywyd i.

Mae gynno fi atgofion melys iawn iawn o ngyrfa a'r bobl sy' wedi bod yn gefn i mi.

Disgrifiad,

Malcom Allen sy'n ymuno ag Annette Bryn Parri i ganu clasur Nadoligaidd Meic Stevens

Yn ystod y rhaglen mae Annette Bryn Parri yn sgwrsio gyda'i gŵr, Gwyn Parri, ei mam a'i chwiorydd, yn ogystal â'i chyfeillion Arwel Jones o Hogia'r Wyddfa, y telynor Dylan Cernyw, y gantores Sian Wyn Gibson a Malcolm Allen.

Bydd yn cael ei darlledu ar Radio Cymru nos Sul, 22 Rhagfyr am 19:00 ac ail-ddarllediad ar ddiwrnod Dolig am 13:00.

Hefyd o ddiddordeb: