Ymchwilio i ymosodiad rhyw ar drên

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn ymchwilio i ymosodiad rhyw honedig ar drên yng Nghaerdydd ddechrau'r mis.

Yn ystod y digwyddiad fe wnaeth dyn gyffwrdd yn amhriodol ar ferch yn ei harddegau, gan gyffwrdd ei bol, dwylo a'i gwallt.

Mae'r heddlu wedi rhyddhau llun o ddyn y maen nhw'n awyddus i'w holi, yn dilyn y digwyddiad honedig ar 2 Tachwedd am 07.30.

Ffynhonnell y llun, BTP
Disgrifiad o’r llun,

Llun o gamera cylch cyfyng o'r dyn y mae'r heddlu yn awyddus i'w holi

Fe wnaeth dau deithiwr arall ymyrryd i gynnig cymorth i'r ferch yn dilyn pryderon am ei diogelwch.

Roedd y trên yn teithio rhwng gorsaf Pye Corner a Chaerdydd Canolog ar y pryd.

Yn dilyn y digwyddiad, mae'r dyn y mae'r heddlu am ei holi yn cael ei gyhuddo o gyffwrdd a dynes arall yng ngorsaf Caerdydd Canolog.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 0800 40 50 40 neu drwy anfon neges testun i 61016 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 70 ac yna 02/12/19.