Hyrwyddo atyniadau Sir Y Fflint 'gydag un llais'

  • Cyhoeddwyd
Ffynnon Gwenffrewi
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n fwriad i dynnu mwy o sylw i "drysorau cudd" y sir, gan gynnwys Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon

Mae teithiau hanesyddol a mwy o sylw i brosiectau Cymraeg eu hiaith ymhlith y syniadau sy'n cael eu hystyried i geisio denu mwy o ymwelwyr i atyniadau, gwestai a bwytai Sir Y Fflint.

Mae'r syniadau'n rhan o weledigaeth a brand newydd corff sy'n cynrychioli busnesau twristiaeth annibynnol y sir.

Hefyd, mae Cymdeithas Twristiaeth Sir Y Fflint yn edrych ar wella cysylltiadau rhwng trefi'r sir a ffyrdd o gydweithio'n well i hybu'r sector yn lleol.

Gyda threfi hanesyddol fel Treffynnon a'r Wyddgrug yn y sir, mae'r tywysydd ymwelwyr Roberta Roberts yn credu bod lle i fanteisio ar dreftadaeth yr ardal.

"Mae 'na bererinion wedi bod yn dod yma [i Dreffynnon] ers y Canol Oesoedd felly mae o yn le pwysig," meddai.

"Mae Sir y Fflint yn cael ei gyfrif fel sir ddiwydiannol yn hytrach na lle twristiaeth, ond mae 'na nifer fawr o bethau yma ar gyfer twristiaeth hefyd."

'Trysorau cudd'

Yn ôl cadeirydd y gymdeithas dwristiaeth, byddai gweithio "gydag un llais yn hytrach nag fel cwmnïau unigol mewn seilos" yn fodd i fanteisio'n well ar dueddiadau a datblygiadau'r sector.

Y gobaith, meddai Jo Smith, yw "taflu goleuni ar ran o safleoedd mwyaf poblogaidd yr ardal" gan gynnwys Moel Famau, Parc Gwledig Loggerheads, Dyffryn Maes Glas, Parc Wepre, Ffynnon Gwenffrewi a Theatr Clwyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae tref farchnad yr Wyddgrug yn un o'r llefydd sy'n denu ymwelwyr i'r sir

"Rydym eisiau i fusnesau o bob maint drwy'r sir sydd ag unrhyw gysylltiad â thwristiaeth a lletygarwch ymuno â ni a rhannu eu syniadau ynghylch be allwn ni wneud i daflu goleuni ar drysorau cudd Sir Y Fflint," meddai.

"Nid dim ond ar gyfer bobl sy'n treulio'u gwyliau neu'r diwrnod yma ond ar gyfer pobl ar draws gogledd Cymru a thros y ffin."

Yn ôl Dylan Huw Roberts, sydd yn berchennog maes carafanau ym mhentref Hendre, byddai gwell hysbysebu yn Lloegr yn ffordd o ddenu'r "miloedd ar filoedd o bobl" sy'n byw yno i aros yn Sir y Fflint.

"Y broblem fwyaf 'dan ni'n cael ydi cael pobl i ffwrdd o'r A55 - maen nhw i gyd yn mynd ar yr A55 tuag at Sir Fôn," meddai.

"Ond mae isio cadw nhw yn Sir y Fflint, 'dan ni efo pob peth i'w gynnig iddyn nhw yn fan 'ma."