Cynlluniau 'unwaith mewn oes' i ddatblygu Theatr Clwyd
- Cyhoeddwyd

Bydd yr adeilad newydd yn cynnwys theatr 'pop-up', caffi ar gyfer pobl sy'n byw â dementia, gardd synhwyraidd a maes chwarae
Mae cynlluniau i ailddatblygu cartref cwmni theatr gynhyrchu mwyaf Cymru wedi cael eu datgelu i'r cyhoedd.
Mae'r gwelliannau posib i Theatr Clwyd, a gafodd ei sefydlu yn Yr Wyddgrug yn 1976, yn cynnwys ailwampio mannau cyhoeddus, theatr 'pop-up' newydd drws nesaf gyda 300 o seddi a chyfleusterau arbennig i wella iechyd a lles ymwelwyr.
Mae'n fwriad hefyd i sicrhau bod yr adeilad yn fwy cynaliadwy ac yn gwneud defnydd mwy effeithlon o ynni.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn para tan 23 Medi, ac mae disgwyl i gymal cyntaf y gwaith ailwampio ddechrau yn 2021.

Roedd yna glod a Gwobr Olivier i un o gynyrchiadau mwyaf diweddar Theatr Clwyd,, sef Home, I'm Darling
Bydd y theatr yn aros ar agor tra bo'r gwaith adeiladu yn mynd ymlaen.
Mae'r gwaith hwnnw yn cynnwys caffi ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia, gardd synhwyraidd a maes chwarae.
Bydd hefyd yn creu ystafelloedd ymarfer sy'n gweddu maint theatrau'r adeilad presennol, a bydd llwyfan Theatr Anthony Hopkins yn cael ei hatgyfnerthu.

Llun artist o Theatr Clwyd ar ei newydd wedd
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd, Liam Evans Ford: "Rydym wrth ein boddau wrth symud ymlaen i gam nesaf y project unwaith mewn oes yma i ddiogelu dyfodol Theatr Clwyd a'i effaith economaidd i ogledd ddwyrain Cymru, sy'n werth dros £7.7m bob blwyddyn.
"Bydd y project hefyd yn sicrhau bod gogledd Cymru'n parhau i allforio theatr o'r radd flaenaf yn fyd-eang ac adeiladu ar yr 500,000 o bobl sydd wedi gweld cynhyrchiad Theatr Clwyd yng ngweddill y DU dros y ddwy flynedd ddiwethaf."
Yn ôl Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett, mae'r cynllun ailddatblygu'n "hanfodol" i sicrhau bod yr adeilad yn cwrdd â'r safonau diweddaraf "ac i wella'r profiad i ymwelwyr".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2018