Cwpan Her Ewrop: Scarlets 46-5 Bayonne

  • Cyhoeddwyd
Ryan Conbeer yn sgorioFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency

Llwyddodd y Scarlets i sicrhau'r dwbl dros Bayonne yng Nghwpan Her Ewrop gyda buddugoliaeth swmpus ar Barc y Scarlets nos Sadwrn.

Roedd hi'n hanner cyntaf digon cystadleuol yn y glaw trwm, gyda chais Ryan Conbeer a chiciau Leigh Halfpenny yn rhoi'r tîm cartref 11-0 ar y blaen ar yr egwyl.

Ond ar ddechrau'r ail hanner fe gymerodd y Scarlets reolaeth o'r ornest, gyda cheisiau cyflym gan Ryan Elias, Kieran Hardy ac Angus O'Brien yn sicrhau'r pwynt bonws erbyn yr awr.

Parhau wnaeth goruchafiaeth y crysau cochion, gydag Hardy yn croesi am ei ail gais cyn i Halfpenny hefyd ymuno yn yr hwyl.

Sgoriodd Julien Tisseron gais gysur i Bayonne gyda symudiad olaf y gêm, ond erbyn hynny roedd y Scarlets wedi hen ddechrau dathlu eu trydedd fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth eleni.

Mae'r canlyniad yn eu gadael nhw yn ail yng Ngrŵp B y tu ôl i Toulon - eu gwrthwynebwyr nesaf yn y Cwpan Her, a hynny ar Barc y Scarlets ar 11 Ionawr.

Fe ddaeth buddugoliaeth y Scarlets yn sgil y newyddion bod Seland Newydd yn awyddus i benodi eu prif hyfforddwr Brad Mooar i'w tîm hyfforddi newydd nhw dan Ian Foster.