Boris Johnson i gynnig refferendwm annibyniaeth i Gymru?

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Wigley
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Arglwydd Wigley y gallai gwrthwynebiad i lywodraeth Geidwadol helpu Plaid Cymru yn 2021

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru wedi dweud y gallai'r prif weinidog Boris Johnson gynnig refferendwm annibyniaeth i Gymru fel tacteg i geisio achub yr Undeb.

Dywedodd yr Arglwydd Wigley y byddai dyfodol y Deyrnas Unedig ar yr agenda unwaith eto yn y blynyddoedd nesaf, ac y byddai'n rhaid i Mr Johnson "gyflwyno syniad radical iawn" er mwyn cadw'r gwledydd gyda'i gilydd.

Fe wnaeth y Ceidwadwyr ennill mwyafrif cyfforddus yn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau yn dilyn addewid clir i gyflawni Brexit.

Ond doedd y darlun ddim yn gyson ar draws y wlad, gyda'r SNP yn ennill y rhan fwyaf o seddi'r Alban a chenedlaetholwyr hefyd yn gwneud yn ennill mwy o seddi nac unoliaethwyr yng Ngogledd Iwerddon.

'Dal ein tir'

Mae arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon eisoes wedi dweud fod y canlyniad yn rhoi mandad ar gyfer cynnal refferendwm arall ar annibyniaeth i'r Alban.

Ond mae Ceidwadwyr blaenllaw yn San Steffan gan gynnwys Michael Gove eisoes wedi dweud nad ydyn nhw am weld hynny'n digwydd, ac y dylai'r bleidlais yn 2014 gael ei pharchu.

Fydd hi ddim mor hawdd â hynny, yn ôl yr Arglwydd Wigley, ac mae'n bosib y gallai sefyllfa hyd yn oed godi ble byddai Mr Johnson yn cynnig refferendwm annibyniaeth i bob rhan o'r DU er mwyn ceisio achub yr Undeb.

"Fe allai fynd am refferendwm nid yn unig yn yr Alban ond yng Ngogledd Iwerddon ar y ffin a hyd yn oed o bosib yng Nghymru er mwyn symud tuag at system fwy conffederal ar gyfer y Deyrnas Unedig," meddai wrth siarad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales.

"Byddai'n hoffi gwneud hynny er mwyn osgoi chwalu'r Deyrnas Unedig yn llwyr, rhywbeth fydd yn digwydd os nad ydy o'n cyflwyno syniad radical iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Ben Lake i gynyddu ei fwyafrif yng Ngheredigion, un o lwyddiannau'r noson i Blaid Cymru

Mynnodd cyn-AS Plaid Cymru fod y blaid wedi "dal eu tir" wrth gadw'r un nifer o ASau yn yr etholiad cyffredinol, er iddyn nhw fethu ag ennill unrhyw seddi ychwanegol.

Ychwanegodd hefyd y gallai'r blaid fod mewn safle i fanteisio os yw'r llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn amhoblogaidd erbyn etholiadau'r Senedd yn 2021.

Ac mae un o ASau presennol y blaid wedi amddiffyn y penderfyniad i ddod i gytundeb etholiadol gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion i beidio sefyll yn erbyn ei gilydd mewn rhai seddi yn yr etholiad eleni.

"Dwi'n meddwl fod e'n iawn fod y blaid wedi cymryd safbwynt ar fater mawr y dydd, sef Brexit," meddai Ben Lake, a lwyddodd i gynyddu ei fwyafrif yng Ngheredigion.

"Y peth iawn i wneud fel plaid oedd bod yn glir beth oedd ein barn ni a beth roedden ni'n credu oedd yn iawn a'r peth gorau ar gyfer y wlad.

"Nawr wrth gwrs fe all y wlad anghytuno, ac mewn sawl rhan o Gymru fe wnaethon nhw.

"Ond os 'dych chi'n trafod ai'r peth cywir yw bod yn glir gyda phobl beth yw eich safbwynt chi ar gwestiwn penodol, dwi'n meddwl y dylai mwy o bleidiau wneud hynny."