Anrhydedd cyflawniad oes i'r Farwnes Tanni Grey-Thompson

  • Cyhoeddwyd
Y Farwnes Grey-Thompson

Mae'r pencampwr Paralympaidd y Farwnes Tanni Grey-Thompson wedi cael ei hanrhydeddu â'r wobr cyflawniad oes yn ystod rhaglen Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC.

Fe enillodd y seren trac 16 medal Paralympaidd a thorri 30 record byd yn ei gyrfa, bu'n bencampwr byd bedair gwaith ac enillodd Marathon Llundain chwe gwaith.

Mae Gray-Thompson, sydd â spina bifida, yn enillydd blaenorol Gwobr Helen Rollason, ac yn 2000 gorffennodd yn drydydd ym mhrif wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y tu ôl i'r enillydd Syr Steve Redgrave a Denise Lewis.

Cyflwynwyd y wobr iddi gan Syr Chris Hoy.

"Wnes i erioed feddwl fel merch ifanc o Gymru a oedd â breuddwyd o gymryd rhan mewn chwaraeon, pan oeddwn i'n gwylio'r rhaglen hon, y byddwn i un diwrnod yn y gynulleidfa, heb sôn am ar y llwyfan," meddai.

"Wrth dyfu i fyny, fe geisiais sawl camp ond roeddwn i mor ffodus am fy mod wedi dod o hyd i rywbeth rydw i'n ei garu a dod yn dda arno.

"Roedd cymaint o bobl, gwirfoddolwyr, a roddodd o'u hamser ac ni fyddwn yma hebddyn nhw felly diolch cymaint.

"Mae wedi bod yn daith anhygoel i weld lle mae'r mudiad Paralympaidd heddiw. I bobl ifanc heddiw mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n cael cyfle i fod yn egnïol ac i gymryd rhan mewn chwaraeon.

"20 mlynedd yn ôl, dywedodd Nelson Mandela fod gan chwaraeon y pŵer i newid y byd. I fy ffrindiau a fy nheulu a helpodd fi, diolch am fy ngoddef i."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe lwyddodd Tanni Grey-Thompson i ennill 16 medal Paralympaidd yn ystod ei gyrfa

Mae enillwyr y gorffennol wedi cynnwys Syr Alex Ferguson, yr Arglwydd Sebastian Coe, y Fonesig Jessica Ennis-Hill ac enillydd y llynedd, Billie Jean King.

Mae Grey-Thompson wedi defnyddio cadair olwyn ers yn saith oed ac wedi dweud o'r blaen y byddai ei rhieni "yn ôl pob tebyg wedi dod â'r beichiogrwydd i ben" pe byddent yn gwybod am ei hanabledd.

Ar ôl rhoi cynnig ar sawl camp, fe syrthiodd mewn cariad â rasio cadair olwyn yn 13 oed, ac ymunodd â charfan Prydain yn 17 oed.

Enillodd ei medal Paralympaidd gyntaf - efydd 400m - yn Seoul 1988 cyn ennill ei phedwar teitl cyntaf yn Barcelona bedair blynedd yn ddiweddarach, lle hi hefyd oedd y fenyw gyntaf i gwblhau'r 400m mewn llai na 60 eiliad.

Daeth mwy o fedalau aur Paralympaidd yn Atlanta a Sydney yn ogystal ag Athen, cyn ymddeol yn 2007.