Lori yn taro trwy ffens ar bont yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r prif ffyrdd i mewn ac allan o Aberystwyth wedi cael ei chau ar ôl i lori dorri drwy ffens ddiogelwch.
Mae'r cerbyd i'w weld yn hongian uwchben llwybr cerdded sy'n croesi o dan ffordd yr A4120 ym Mhenparcau.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Fryn Pen-y-bont am 15:30 brynhawn Llun, ac mae disgwyl i'r ffordd fod ynghau am rai oriau wrth i'r frigâd dân a'r heddlu glirio'r safle.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y lori hefyd wedi gollwng tanwydd.
Mae'r bont wedi ei lleoli ar y ffordd sy'n cysylltu Penparcau â chylchdro Parc y Llyn.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.