Heddlu'n ymchwilio i lofruddiaeth yn Y Barri

  • Cyhoeddwyd
Y Barri
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhan o Ffordd Holton yn parhau ar gau

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth ar ôl i ddyn farw yn Y Barri.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Holton y dref am 16:00 ddydd Llun yn dilyn adroddiadau o ymosodiad difrifol.

Mae'r llu wedi cadarnhau bod dyn 23 oed wedi marw yn y digwyddiad a'u bod yn ymchwilio i'w lofruddiaeth.

Mae rhan o'r ffordd yn parhau ar gau wrth i'r heddlu gynnal eu hymchwiliad ac maen nhw'n apelio am dystion.

Mae teulu'r dyn a fu farw wedi cael gwybod ac maen nhw'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol ar hyn o bryd.

Mewn datganiad dywedodd yr heddlu: "Mae sawl elfen o'r ymchwiliad ar droed i geisio canfod ac arestio'r rhai sy'n gyfrifol."