Llofruddiaeth Y Barri: Arestio dyn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 24 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i ddyn farw yn Y Barri.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Holton am 16:00 brynhawn dydd Llun yn dilyn adroddiadau o ymosodiad difrifol.
Cafwyd cadarnhad yn hwyr nos Lun fod dyn 23 oed wedi marw yn y digwyddiad a bod Heddlu'r De yn ymchwilio i'w lofruddiaeth.
Mae teulu'r dyn a fu farw wedi cael gwybod ac maen nhw'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol ar hyn o bryd.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De: "Mae ditectifs sy'n ymchwilio i farwolaeth dyn yng nghanol tref Y Barri wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth.
"Nid yw swyddogion yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ond os oes gan unrhyw un wybodaeth allai fod o gymorth gyda'r ymchwiliad, cysylltwch â'r heddlu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2019