Nadolig Beth Angell: Unwaith y flwyddyn ydy o ynde?

  • Cyhoeddwyd
Beth Angell a'i theuluFfynhonnell y llun, Beth Angell
Disgrifiad o’r llun,

Beth Angell a'i theulu

Roedd rhuthro o gwmpas yn siopa funud ola' a chodi am bedwar y bore i baratoi'r cinio, yn arferiad i'r ddigrifwraig Beth Angell bob Dolig. Erbyn hyn, mae'n gofyn yn garedig i Siôn Corn am gael amser gyda'r teulu:

"Dwi mond newydd orffen golchi dillad Steddfod…a rŵan mae'n blincin Dolig."

Dyna fy nghri wrth i mi eistedd i lawr i ddechrau llunio'r rhestrau Nadolig.

Do, mi ddarllenoch chi hwnna yn gywir, lluosog... rhestrau. Pob blwyddyn mae gen i gasgliad o restrau sydd yn fy nghadw mewn trefn ac yn golygu nad ydw i'n anghofio unrhyw beth angenrheidiol ar gyfer dathliad y baban yn y preseb.

Dwi'n meddwl mai enw'r bych ydi John Lewis, ond fedrai ddim bod yn siŵr.

Mae yna restrau ar gyfer anrhegion, bwyd, gwin, cardiau ac amryw gyngherddau a digwyddiadau i'r teulu cyfan. Maen nhw'n rhoi cysur i mi, ac hefyd yn golygu y bydda i'n rhedeg o gwmpas fel ragarug Colin yn Pobol y Cwm ar ôl gormod o orinj sgwash.

Dyma fu fy hanes ers ugain mlynedd bellach… ond 'na fo, unwaith y flwyddyn ydio de?

Pan oedd y plant yn fach mi o'n i'n mynd ati i lapio POB anrheg yn eu hosan 'Dolig, gan sicrhau mod i ddim yn defnyddio yr un papur ag o'n i yn ei ddefnyddio i lapio anrhegion bobl eraill, rhag ofn iddyn nhw sylwi.

Ella bod y ffernols bach methu ffendio petha' o dan eu trwyna, ond oeddan nhw'n troi mewn i DCI Tom Mathias (jyst bod nhw'n gwenu mwy a mymblan llai) pan oedd enw da Siôn Corn yn y fantol.

Ffynhonnell y llun, Beth Angell
Disgrifiad o’r llun,

Beth a'i merch yn mwynhau hwyl yr ŵyl

Pedwar pwdin

Mi o'n i'n treulio oriau yn chwilio am yr anrheg must have ac yn gwneud fy hun yn sâl os o'n i methu cael yr union beth o'ddan nhw isho.

Aeth hi bron yn flêr IAWN yn Argos Caergybi rhyngtha fi a dynes o'r enw Cheryl dros Furbies pinc un flwyddyn, ond stori arall 'di honna.

Am bedwar y bore o'n i'n y gegin yn paratoi cinio, achos mi fysa hi'n ddiwedd y byd oni bai fod pawb yn cael yr union lysiau oeddan nhw isho, a peidiwch â'n nechra' fi ar bedwar pwdin gwahanol.

Ar fore 'Dolig mi fydda'r plant yn codi gan redeg syth heibio'r olion traed ar y grisiau a'r olion traed ceirw yn yr ardd (wedi eu gadael gan Siôn Corn a Rwdolff yn amlwg, nid gan fam flinedig ar drothwy gwawr y 25ain o Ragfyr).

Dwi jyst yn ddiolchgar fod y nonsens Elf on theShelf a'r bocsus Christmas Eve 'ma ddim mewn ffasiwn ar y pryd, dwi'n meddwl y bysa hyn wedi bod yn ddiwedd arna'i.

Ffynhonnell y llun, Beth Angell
Disgrifiad o’r llun,

Anrhegion o dan y goeden

Cacen i frecwast

Ond rŵan mae'r plant yn hŷn a phan dwi'n eu holi am eu hatgofion Nadolig maen nhw yn dweud "pawb wrth y bwrdd yn bwyta cacen i frecwast" a "chwarae Articulate".

Does dim sôn am y GoGo Pet wnes i giwio am oriau i'w brynu, na chwaith y ffaith fod pob mins pei wedi eu 'neud efo llaw.

Ffynhonnell y llun, Beth Angell
Disgrifiad o’r llun,

Mins peis wedi neud â llaw - a chacen i frecwast?

'Amser gyda fy nheulu'

Felly 'leni, gyda fy hynaf adref o'r Coleg a siawns o ddeuddydd pan 'di'r fenga ddim 'allan efo ffrindia', dwi wedi penderfynu gofyn i Siôn Corn am anrheg bach i mi fy hun.

Dwi wedi gofyn i'r dyn mewn coch am amser gyda fy nheulu ac mae o (ac yn bendant ddim fy ngŵr) wedi sortio hyn.

Rydan ni gyd wedi tynnu enw allan o het ac yn prynu un anrheg i'r person yna yn unig. Mae'r gwesty in charge o'r arlwyo fel mod i'n cael amser i chwarae Articulate, Scrabble a Kerplunk yn hytrach na bod yn y gegin.

Wrth reswm bydd y works ar gael i'w fwyta ar fore Dolig yn y gwesty, ond dwi'n meddwl y gwnawn ni dal gael cacen i frecwast!

Hefyd o ddiddordeb: