Apêl heddlu i ddyn farw'n sydyn ar draeth yn Aberaeron

  • Cyhoeddwyd
Clive RobertsFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth wedi marwolaeth sydyn gweithiwr cyngor 52 oed ar draeth yng Ngheredigion.

Cafwyd hyd i gorff Clive Roberts, o Lanwnnen, ar Draeth y Gogledd yn Aberaeron ddydd Gwener.

Does dim esboniad ar hyn o bryd ynghylch amgylchiadau'r farwolaeth, yn ôl y llu.

"Rydym yn gwybod bod Mr Roberts yn gweithio yn y bore ar 13 Rhagfyr ond dydy ei union symudiadau ddim yn glir," meddai'r Ditectif Arolygydd Richard Yelland.

"Roedd yn gwisgo trowsus oren a siaced felen high visibility wrth wneud ei waith yn nhref Aberaeron.

"Os welsoch chi Clive y bore hwnnw, ffoniwch neu siaradwch gyda swyddog lleol."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Gallwn gadarnhau mai corff ein cydweithiwr Clive Roberts a gafodd ei ddarganfod ar y traeth yn Aberaeron ar ddiwedd wythnos diwethaf.

"Rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i'w deulu, ei gyfeillion a'i gydweithwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Mae'r cyngor hefyd yn annog pobl sydd â gwybodaeth all helpu'r ymchwiliad i gysylltu â'r heddlu neu ffonio 101.