Prosiect Corbyn 'heb ei danseilio' medd Drakeford

  • Cyhoeddwyd
Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Awgrymodd Mark Drakeford y dylai Llafur Cymru gael mwy o hunanreolaeth yn y dyfodol

Mae arweinydd Llafur Cymru wedi dweud nad yw'n credu fod prosiect Jeremy Corbyn wedi ei danseilio er gwaethaf canlyniadau ofnadwy'r etholiad cyffredinol.

Fe gafodd Llafur eu canlyniad gwaethaf ers 1935, ac fe gollon nhw chwe sedd yng Nghymru.

Mae Jeremy Corbyn wedi dweud y bydd yn camu lawr o fod yn arweinydd y blaid "yn gynnar y flwyddyn nesaf".

Ond mynnodd Mark Drakeford wrth BBC Cymru y dylai'r blaid gadw at ei "neges sylfaenol" fod Llafur yn "sefyll dros rywbeth gwell".

'Dyfodol gwahanol'

Dywedodd wrth BBC Cymru nad oedd prosiect Jeremy Corbyn wedi ei danseilio.

Dywedodd: "Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod arweinydd nesaf Llafur yn parhau i osod safbwynt y blaid fel un sy'n dweud wrth bobl y gallan nhw gael dyfodol gwahanol, bod yna obaith i bobl, nad oes rhaid i bethau fod fel ag y maen nhw ac y gallwn ni redeg y wlad mewn ffordd sy'n ei gwneud yn iawn i fwyafrif y bobl nid dim ond yr ychydig breintiedig.

"Nawr, fe fydd rhaid i ni fireinio'r neges yna a'i haddasu ymhen pum mlynedd, ond y neges sylfaenol yw bod y blaid Lafur yn sefyll dros rywbeth gwahanol, yn sefyll dros rywbeth gwell."

Gwrthododd honiadau fod barn y bobl yn eitha' difrodus i Lafur.

"Dydw i ddim yn credu fod hynny oherwydd y neges sylfaenol," meddai.

"Efallai na wnaethon ni drosglwyddo'r neges yn ddigon da ac nad oedd pobl yn teimlo'n hyderus y gallen ni gyflawni, ond dwi am gael plaid Lafur, a phlaid Lafur yng Nghymru, sydd allan yn dweud wrth bobl: 'Dydyn ni ddim yn sefyll er mwyn rheoli'r status quo ychydig bach llai drwg na'r criw arall'.

Disgrifiad o’r llun,

Cipiodd y Ceidwadwyr chwe sedd yng Nghymru oddi ar y blaid Lafur

Hunanreolaeth i Llafur Cymru?

Ychwanegodd Mr Drakeford: "Ry'n ni'n sefyll dros ddyfodol i bobl y wlad sy'n wirioneddol well nag yw'r presennol heddiw... dyfodol lle byddwn yn buddsoddi'n holl ymdrechion a'n gallu i wneud y wlad yn un sy'n cynnig y cyfleoedd gorau i'r mwyafrif.

"Nid ydym am gael gwlad sy'n gwbl ranedig, yn gwbl anghyfartal lle mae rhai pobl yn gwneud yn dda iawn ac eraill ddim yn cael eu cyfran haeddiannol."

Pan holwyd Mr Drakeford a ddylai Llafur Cymru gael mwy o hunanreolaeth, atebodd: "Ydw, dwi'n credu. Rwy'n credu y byddwn yn edrych i'r arweinydd newydd i ymrwymo i fwy o hunan reolaeth i'r blaid Lafur yma yng Nghymru, fel bod gennym fwy o reolaeth am sut yr ydym yn rhedeg y blaid a sut yr ydym yn cyfrannu i'r blaid yn genedlaethol.

"Ond yr hyn ddigwyddodd yr wythnos ddiwethaf yng Nghymru oedd beth sy'n digwydd mewn etholiad cenedlaethol.

"Y 'mood' cenedlaethol a'r 'swing' cenedlaethol sy'n penderfynu'r rhan fwyaf o beth sy'n digwydd yng Nghymru. Ar y stepen drws, ddywedodd neb wrthai: 'Byddwn yn pleidleisio dros y blaid Lafur pe byddai gennych fwy o hunanreolaeth'."