Galw 'anferth' elusen sy'n rhoi anrhegion i'r difreintiedig
- Cyhoeddwyd
Mae galw "anferth" ar elusen sy'n cynnig anrhegion Nadolig i deuluoedd difreintiedig, meddai'r sylfaenydd.
Pob blwyddyn mae Superkids Gogledd Cymru yn rhoi teganau i blant sy'n cael eu cyfeirio atyn nhw gan elusennau neu wasanaethau cyhoeddus.
Yn 2018, elwodd dros 1,600 o blant o'r prosiect.
Mae'r gwasanaeth yn gweithio "bron fel banc bwyd", yn ôl y sylfaenydd, Margaret Williams.
'Cynnydd blynyddol'
Dywedodd bod pwysau'r Nadolig yn gallu bod yn drwm ar bobl sydd mewn sefyllfa ariannol fregus.
"Mae rhai pobl sy'n llythrennol yn meddwl am hunanladdiad - dyna faint maen nhw'n poeni," meddai.
"Ac os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl, mae'r pwysau ychwanegol o boeni am y Nadolig yn gallu bod yn un broblem yn ormod."
Yn ôl Ms Williams, mae'r galw wedi cynyddu'n flynyddol ers sefydlu'r elusen yn 1999.
"Dwi ddim yn sicr os mai'r angen sydd wedi cynyddu neu a ydyn ni'n fwyfwy adnabyddus," meddai.
"I fod yn onest, dwi ddim yn siŵr, ond dwi'n tueddu i feddwl mai amgylchiadau ydy'r rheswm, yn enwedig y Credyd Cynhwysol."
Un elusen sy'n derbyn anrhegion gan Superkids ydy Home-Start, sy'n eu dosbarthu i deuluoedd bregus.
"Pan 'dan ni'n cyrraedd y drws efo'r sachau 'ma, maen nhw jest yn gwenu," meddai Bethan Williams, sy'n gweithio i Home-Start yn Sir Ddinbych.
"Weithiau, 'dan ni'n mynd o wythnos i wythnos a dydy'r teuluoedd 'ma heb lawer i wenu amdano."
Yn gynharach ym mis Rhagfyr, apeliodd Margaret Williams am roddion i Superkids fel eu bod yn gallu ateb y galw.
Roedd yr ymateb yn "wefreiddiol", meddai, gan ychwanegu ei bod wedi ei "synnu gan y caredigrwydd".
Bydd yr elusen yn dal i weithio tan y funud olaf fel bod gan bob plentyn a pherson ifanc anrheg dan eu coeden fore Nadolig.
"Mae'n rhaid dal ati a dal ati," meddai Ms Williams.