Teyrnged i fenyw fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae teulu menyw oedrannus fu farw mewn gwrthdrawiad ddydd Gwener wedi rhoi teyrnged iddi.
Daeth cadarnhad gan Heddlu'r De mai Shirley Hope, 84 oed, fu farw pan fu ei char Peugeot mewn gwrthdrawiad â BMW ar Ffordd Rhigos am tua 15:00 ddydd Gwener 20 Rhagfyr.
Mae'r heddlu yn dal i apelio am wybodaeth am y digwyddiad wedi i ddau ddyn gael eu rhyddhau ar ôl cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dywedodd teulu Mrs Hope: "Roedd Shirley yn fam a nain gariadus oedd yn falch iawn o'i theulu.
"Roedd yn fam i Kevin, Karen a Martyn ac yn nain i naw."
Mae'r teulu'n derbyn cefnogaeth gan swyddog arbenigol.
Cafodd dau ddyn, 25 a 21 oed o Hirwaun, eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ac mae'r ddau wedi eu rhyddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Byddai'r heddlu'n hoffi siarad gydag unrhyw un a welodd dau gar BMW - un coch ac un gwyn - yn cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad.
Dylai unrhyw dystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth, ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod *466639.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2019