Ollie Banks: O drechu canser y fron i gynrychioli ei wlad

  • Cyhoeddwyd
Ollie BanksFfynhonnell y llun, Ollie Banks
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ollie Banks wybod ei bod yn bosib na fyddai'n gallu rhwyfo ar lefel uchel eto

Mae Ollie Banks yn edrych ymlaen at rwyfo dros Brydain a dechrau gyrfa gyda'r Awyrlu Brenhinol yn 2020, ond fe allai ei fywyd fod wedi bod yn wahanol iawn.

Ar ddechrau 2018 cafodd y gŵr 23 oed wybod bod ganddo diwmor yn ei frest.

Roedd yn un o'r dim ond 390 o ddynion yn y DU sy'n cael diagnosis o ganser y fron yn flynyddol, ac fe gollodd dros stôn o bwysau.

Ond yr hyn sy'n gwneud ei achos hyd yn oed yn fwy anarferol yw bod mwyafrif llethol y dynion sy'n cael canser y fron yn eu 60au neu 70au.

Er iddo gael gwybod y gallai fyth rwyfo ar lefel uchel eto, cafodd fastectomi llwyddiannus ac mae bellach yn holliach ers dechrau'r flwyddyn.

Ers hynny mae wedi cwblhau gradd mewn Peirianneg Awyrenneg, wedi dechrau ymgyrch ymwybyddiaeth canser ymysg myfyrwyr a bydd yn cynrychioli Prydain yn rhwyfo yn haf 2020.

'Mynd yn ôl am fwy'

"Fe wnes i ganfod lwmp a mynd at y doctor i weld beth oedd e a chael gwybod bod gen i diwmor," meddai.

"Fe ges i driniaeth rhwng Mai a Mehefin y llynedd, ond wedyn daeth y lwmp yn ôl felly roedd rhaid i mi fynd yn ôl am fwy."

Er iddo gael gwybod ei bod yn bosib na fyddai'n rhwyfo eto, llwyddodd i adfer ei gryfder a chael ei ddewis i gynrychioli prifysgolion Prydain mewn cystadleuaeth yn Rwsia yn haf 2020.

Ffynhonnell y llun, Ollie Banks
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ollie Banks yn dechrau ar yrfa gyda'r Awyrlu yn 2020

Wedi iddo gwblhau ei radd ym Mhrifysgol De Cymru yn yr haf, cafodd Mr Banks rôl fel swyddog digwyddiadau gyda'r undeb myfyrwyr yno.

Roedd hyn yn cynnwys arwain ar ymgyrch ymwybyddiaeth yn annog myfyrwyr i gadw golwg ar eu cyrff am unrhyw beth anarferol.

Bydd yr ymgyrch yn dod i ben ar 1 Mawrth pan fydd Mr Banks yn rhedeg Hanner Marathon Casnewydd mewn gwisg ffansi, cyn iddo ddechrau ar yrfa newydd gyda'r Awyrlu.

Dywedodd: "Rydw i wedi dysgu lot dros y blynyddoedd diwethaf - dydy llwyddiant ddim yn llinell syth, mae pethau i fyny ac i lawr."