Dynes wedi marw ar ôl mynd i drafferthion ger Gwbert
- Cyhoeddwyd
Mae dynes wedi marw ar ôl mynd i drafferthion ger yr arfordir yn ardal Gwbert, Ceredigion.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael eu galw am 10:45 fore Sadwrn yn dilyn adroddiadau bod person mewn trafferth ger clogwyni.
Fe gafodd Gwylwyr y Glannau a gwasanaethau brys eraill eu galw i gynorthwyo, ac fe gafodd y ddynes ei chludo mewn hofrennydd i'r ysbyty, ond bu farw'n ddiweddarach.
Mae ei theulu wedi cael gwybod, a dydy'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.