Allen Clarke: Y Gweilch yn cadarnhau ei ymadawiad
- Cyhoeddwyd
Fe gadarnhaodd y Gweilch fod y prif hyfforddwr, Allen Clarke, wedi gadael y rhanbarth.
Nid yw Clarke wedi bod yn gyfrifol am y tîm cyntaf ers diwedd mis Tachwedd ond roedd y Gweilch dal yn ei gyflog tan nawr.
Mewn datganiad byr fe gadarnhaodd y rhanbarth fod Clarke, 52, wedi gadael ac fe ddiolchon nhw fe "am ei holl ymdrechion a'i gyfraniad".
"Gall y Gweilch gyhoeddi eu bod wedi dod i gytundeb cyfreithiol gyda'r prif hyfforddwr Allen Clarke, ac fe fydd yn gadael ar unwaith," meddai'r datganiad.
Fe ymunodd Clarke â'r rhanbarth fel hyfforddwr y blaenwyr yn haf 2017 a daeth yn brif hyfforddwr dros dro ym mis Ionawr 2018 yn dilyn ymadawiad y pennaeth blaenorol Steve Tandy.
Ym mis Ebrill 2018 fe lofnododd gytundeb tair blynedd fel prif hyfforddwr y Gweilch.
Mae rhanbarth Cymru wedi cael trafferth y tymor hwn, gan ennill dim ond un gêm Pro14 o dan Clarke.
Mae cadeirydd y Gweilch, Rob Davies, wedi dweud o'r blaen "nad canlyniadau'n unig" oedd yn gyfrifol am y sefyllfa ond bod "mater o ymddygiad personol" hefyd.
Mae hyfforddwyr cynorthwyol Matt Sherratt - a fydd yn gadael Stadiwm Liberty ar ddiwedd y tymor - a Carl Hogg wedi mynd i'r afael â'r tîm cyntaf, tra bod cyn hyfforddwr Cymru, Mike Ruddock, wedi bod yn ymgynghori dros dro hefyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2019