40,000 o ddilynwyr Instagram i fyfyrwraig

  • Cyhoeddwyd
Zoe PetreFfynhonnell y llun, Zoe Petre
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Zoe Petre gyhoeddi nodiadau adolygu er mwyn ysgogi'i hun i weithio

Mae myfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd wedi adeiladu nifer anferth o ddilynwyr ar wefan Instagram drwy gyhoeddi lluniau o'i nodiadau adolygu.

Dechreuodd Zoe Petre, 21 oed o'r Barri ym Mro Morgannwg, gyhoeddi lluniau o'i nodiadau ym Medi 2016 tra'n adolygu am arholiadau Lefel A.

Erbyn hyn mae ganddi fwy na 40,000 o ddilynwyr ledled y byd.

Eglurodd Ms Petre pam iddi ddechrau: "Doedd yr arholiadau ddim yn mynd yn dda iawn. Roeddwn i eisoes wedi ailwneud fy mlwyddyn gyntaf, ac roeddwn i'n gwybod y gallwn i wneud yn well.

"Roeddwn i angen technegau adolygu newydd, felly dechreuais i dynnu lluniau o fy nodiadau a'u cyhoeddi ar Instagram er mwyn ysgogi fy hun."

Ffynhonnell y llun, Zoe Petre
Disgrifiad o’r llun,

Mae ei nodiadau bob tro yn daclus a chryno er mwyn ei hysgogi i'w darllen dro ar ôl tro

Ochr yn ochr â'r nodiadau, fe ddechreuodd hefyd gyhoeddi diweddariadau am ei hadolygu a'i harholiadau, ynghyd ag ychydig o gyngor am y ffordd orau i weithio.

Yn y dechrau, roedd ganddi lond llaw o ddilynwyr - ffrindiau yn bennaf - ond yn fuan fe ddechreuodd ddenu sylw pobl ar draws y byd.

'Rhywbeth da o'r cyfryngau cymdeithasol'

Wrth i nifer y dilynwyr gynyddu, fe wnaeth ei graddau hi wella hefyd.

Dywedodd: "Roeddwn i am fynd i Brifysgol Caerdydd, ond doeddwn i ddim yn credu y byddwn i'n cael y graddau i wneud hynny.

"Ond roedd pobl yn fy ngwthio i lwyddo, ac yn y diwedd fe wnes i gyrraedd y nod."

Yn Medi 2018 fe ddechreuodd ar gwrs gwyddorau biofeddygol ym Mhrifysgol Caerdydd.

A hithau yn ei hail flwyddyn, mae'n dal i gyhoeddi deunydd yn ddyddiol, ac yn dal i ddenu dilynwyr newydd.

Ychwanegodd: "Mae gwneud hyn yn fy annog i wneud nodiadau sy'n edrych yn dda, felly pan dwi'n eu darllen, dwi am ddysgu.

"Dwi hefyd yn ceisio'u deall nhw ac yna eu byrhau fel ei bod yn haws adolygu.

"Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn cael sylw negyddol yn aml, ond mae hyn yn sicr yn rhywbeth da i ddod ohonyn nhw."