Ymgyrch i daclo ymddygiad rheolaethol ymysg yr ifanc

  • Cyhoeddwyd
Ymddygiad rheolaethol neu gymhellolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymddygiad rheolaethol neu gymhellol yn drosedd ers 2015

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth o ymddygiad rheolaethol neu gymhellol o fewn perthynas rhwng pobl yn eu harddegau.

Enghreifftiau o ymddygiad o'r fath yw dweud wrth rywun beth i'w wisgo, anfon negeseuon neu ffonio'n ddi-baid a gorfodi rhywun i dorri cysylltiad gyda ffrindiau a theulu.

Mae 'Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' yn defnyddio hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol i helpu pobl ifanc a'u rhieni i adnabod nodweddion rheolaeth drwy orfodaeth (coercive control) yn eu perthynas nhw neu ym mherthynas eu plentyn.

Bydd yr hysbysebion yn cael eu dangos ar Facebook, Instagram a Spotify dros y mis nesaf ac yn targedu pobl ifanc 16 i 18 oed.

Yn aml, mae ymddygiad rheolaethol neu gymhellol yn fath cynnil a di-drais o gam-drin domestig, sy'n golygu y gall fod yn anodd ei adnabod.

Gall y rheini sy'n dioddef ymddygiad o'r fath deimlo wedi'u bychanu ac wedi'u hynysu oddi wrth eu ffrindiau a'u teulu.

Mae canllawiau ar gael i oedolion hefyd er mwyn iddyn nhw ddysgu sut orau i gefnogi pobl ifanc y maen nhw'n pryderu amdanyn nhw.

'Cyffredin iawn'

Ers 2015, mae ymddygiad rheolaethol neu gymhellol yn drosedd ac fe gafodd 17,616 o achosion eu cofnodi gan yr heddlu'r llynedd ar draws Cymru a Lloegr.

Yn ôl arolwg diweddar gan yr ONS, roedd 9.6% o fenywod a 6.5% o ddynion 16 i 19 oed wedi profi cam-drin domestig mwy nag unwaith.

Fe wnaeth grŵp o bobl ifanc o gampws Coleg y Cymoedd yn y Rhondda helpu i lansio cam diweddaraf yr ymgyrch, gan sôn am brofiadau ymhlith eu ffrindiau.

Dywedodd Dan (nid ei enw iawn), sy'n 16 oed: "Rwy'n gwybod am nifer o bobl sydd wedi gorfod delio â hyn.

"Dwi'n meddwl ei fod yn gyffredin iawn yn ein cenhedlaeth ni, yn enwedig oherwydd y cyfryngau cymdeithasol. Felly, mae'n hollbwysig mynd i'r afael ag e mor gynnar â phosibl er mwyn rhoi stop arno.

"Os ydych yn delio ag e bob dydd, rydych yn dechrau teimlo nad yw'n gymaint o broblem ag yw e mewn gwirionedd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Jamie (nid ei enw iawn) , sy'n 17 oed: "Nid yw pobl yn sylweddoli mai dyma beth maen nhw'n ei ddioddef.

"Mae'n dda o beth gallu codi ymwybyddiaeth er mwyn helpu pobl i sylweddoli 'o, mae hyn yn digwydd i fi'.

"Os nad yw rhywun yn ymwybodol o'r sefyllfa, mae'n bosibl y bydd yn ceisio amddiffyn y person sy'n ei reoli.

"Dylech wybod eich gwerth ac nad yw hyn yn dderbyniol. Os yw hyn yn digwydd i chi, siaradwch â rhywun a allai eich helpu."

'Codi ymwybyddiaeth'

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Jane Hutt: "Mae'n bosibl nad yw pobl ifanc wedi cael digon o brofiad o berthynas iach i wybod beth sy'n ymddygiad arferol a beth sy'n anarferol, ac felly mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar bob cyfle i siarad â nhw am beth sy'n dderbyniol ac yn annerbyniol.

"Rwy'n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn codi ymwybyddiaeth o'r ymddygiad gwenwynig hwn ac yn grymuso pobl ifanc i siarad yn ei erbyn."

Mae llinell gymorth arbennig Byw Heb Ofn - sydd am ddim ac yn gyfrinachol - ar gael i unrhyw un sydd wedi dioddef ymddygiad rheolaethol neu gymhellol neu unrhyw fath o gam-drin domestig - 0808 8010 800 - neu ewch i wefan Byw Heb Ofn, dolen allanol i anfon neges at gynghorydd 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.