Pryder am ddefnydd pobl ifanc o gyffuriau dosbarth A

  • Cyhoeddwyd
Carson PriceFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carson Price wrth ei fodd gyda cherddoriaeth ac wedi dysgu ei hun i chwarae gitâr

Mae'r pedwar Comisiynydd Plant ym Mhrydain wedi dweud wrth y BBC eu bod yn pryderu'n fawr am nifer y bobl ifanc sy'n defnyddio cyffuriau rhad dosbarth A.

Maen nhw hefyd yn rhybuddio bod y rhan fwyaf o rieni ddim yn ymwybodol o'r broblem.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae'r defnydd o gyffuriau dosbarth A ymhlith pobl ifanc ar gynnydd bob blwyddyn, a nifer y marwolaethau yn gysylltiedig â chyffuriau ar ei lefel uchaf erioed.

Ym mis Ebrill eleni bu farw Carson Price oedd yn 13 oed o Hengoed, Sir Caerffili ar ôl cymryd MDMA. Roedd y dabled a gymerodd yn un sy'n cael ei alw'n 'Donkey Kong'.

Mae ei deulu'n cadw cast o'i law ar fwrdd yn y tŷ. Roedd ei fam, Tatum, eisiau rhywbeth gweledol y gallai gyffwrdd.

"Roedd Carson yn hyfryd, yn fachgen galluog gyda'i ddyfodol o'i flaen. Ond cafodd ei gymryd oddi wrthon ni o fewn awr."

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tatum Price yn credu bod angen addysgu plant ynglŷn â pheryglon cyffuriau

Cafodd ei deulu wybod bod y cyffur a gymerodd wedi cael ei werthu iddo drwy'r gwasanaeth anfon negeseuon Snapchat, ac ond wedi costio ychydig o bunnoedd.

"Roedd hynny'n rhy hawdd. Pan chi'n meddwl am gyffuriau dosbarth A, chi'n meddwl y byddai'n anodd cael gafael arnyn nhw a ddim mor hawdd a mynd mewn i siop a phrynu losin, a hynny am yr un pris," meddai Tatum Price.

Dywedodd ei bod yn monitro ffôn ei mab yn gyson ac wedi trafod y peryglon o gymryd cyffuriau. Doedd dim arwydd ei fod am gymryd cyffur dosbarth A, meddai.

"Ni yw'r rhai naïf - y rhieni. Mae plant a'r rhai sy'n gwerthu cyffuriau yn fwy haerllug heddiw, yn eu gwerthu nhw yn y parc."

Ar draws y DU mae o leiaf dwsin o blant o dan 16 oed wedi marw ar ôl cymryd ecstasi ers dechrau 2017.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Carson ei ddarganfod ym mharc Ystrad Mynach ac mae blodau a thegannau ymysg y pethau sydd wedi eu gosod yn y parc

Mae'r comisiynwyr plant wedi dweud eu bod yn bryderus iawn am effaith cyffuriau dosbarth A ar bobl ifanc.

"Dwi'n credu ein bod ni i gyd yn byw mewn anwybodaeth," meddai Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru.

"Byddai'r mwyafrif o rieni ac oedolion wedi synnu gyda pha mor hawdd yw cael gafael mewn cyffuriau cryf peryglus dosbarth A ar gyfer plant ifanc iawn."

Cyffuriau rhad

Ers y 90au mae cryfder ecstasi wedi dyblu, gyda rhai tabledi fel Donkey Kong bedwar neu pum gwaith yn gryfach.

Ar yr un pryd mae prisiau wedi gostwng o ryw £25 i £5 y dabled.

Effaith hyn yw bod y cyffur llawer yn haws i gael gafael ynddo ac mae'r rhai sy'n eu gwerthu yn targedu defnyddwyr ifanc.

"Dwi'n gwybod am bobl mor ifanc â 12 sydd wedi'u cymryd nhw," meddai Lois, sydd yn aelod o Gyngor Ieuenctid Caerdydd.

"Mae'n gallu dechrau gyda nhw'n cymryd marijuana ond yna yn gyflym maen nhw'n cymryd ecstasi achos dydy o jest ddim yn ddigon," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sally Holland yn dweud nad yw hi'n dderbyniol bod plant yn medru prynu cyffuriau ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae aelod arall o'r cyngor ieuenctid yn dweud bod nifer o blant yn dod i wybod am gyffuriau dosbarth A am eu bod yn cael eu gwerthu yn aml gan bobl ifanc.

"Y person yna yn y llyfrgell sydd yn astudio, mae hefyd yn gwerthu cyffuriau rhan amser," meddai Zahara, sy'n 17 oed. "Chi'n edrych tu allan ac mae tua wyth o blant yn rhedeg yn ôl ac ymlaen, chi'n gwybod yn iawn be maen nhw'n gwneud - gwerthu cyffuriau."

Yn ôl yr heddlu mae pobl yn gwerthu cyffuriau dosbarth A fel ecstasi bellach trwy ffonau symudol, sydd yn gwneud plant yn fwy bregus.

"Mae pobl ifanc yn cael eu targedu am eu bod yn gyfforddus iawn yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol," meddai'r Ditectif Arolygydd Sarah Trigg o Heddlu'r De.

"Mae brandio fel Donkey Kong a Versace yn boblogaidd. Mae rhai logos MDMA yn boblogaidd sy'n golygu eu bod yn fwy deniadol i'w gwerthu."

Dywedodd y pedwar comisiynydd plant bod angen i Lywodraeth y DU daclo'r mater o werthiant cyffuriau trwy'r cyfryngau cymdeithasol wrth iddynt gynllunio i sefydlu rheolydd digidol annibynnol.

Mae Snapchat wedi dweud wrth y BBC nad ydyn nhw'n goddef unrhyw werthiant cyffuriau ar eu gwasanaethau, ac maen nhw'n annog defnyddwyr i adrodd unrhyw weithredu anghyfreithlon.

Galwad arall y comisiynwyr yw bod angen gwrthdroi'r toriadau i wasanaethau ieuenctid. Roedd y gwasanaethau yma, meddai'r comisiynwyr, yn flaenllaw er mwyn amddiffyn pobl ifanc.

Wrth ymateb mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud eu bod yn pryderu am y cynnydd yn y defnydd o gyffuriau dosbarth A, ac yn cydnabod pwysigrwydd ymyrraeth yn gynnar er mwyn llywio pobl ifanc i ffwrdd o gyffuriau.

Maen nhw'n disgwyl canlyniad adolygiad annibynnol sy'n edrych ar gyffuriau.

Ond pryder Tatum Price yw bod plant eraill yn dal yn fregus i gyffuriau dosbarth A tra bod eu rhieni ddim yn ymwybodol o'r mater.

"Plîs peidiwch meddwl na ddigwyddith hyn i chi," meddai. "Roedd fy mab yn addysgedig o gartref cariadus. O'n i ddim yn meddwl y byddai fy mab byth yn gwneud hyn.

"Dywedwch wrthyn nhw'r sefyllfa go iawn - mae'n dinistrio bywydau."