Apêl heddlu wedi i ddyn gael ei drywanu yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 33 oed wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol wedi iddo gael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio dyn arall yng Nghaernarfon, ac mae'r heddlu'n awyddus i siarad gyda dau ddyn lleol arall all helpu'u hymchwiliad.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i fflatiau Llys Buddug, Pendalar am 21:38 nos Sul, 29 Rhagfyr wedi adroddiadau fod dyn lleol 35 oed wedi cael ei drywanu sawl tro.
Dywed y llu bod y dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol a bod ei anafiadau'n cael eu trin yn wreiddiol fel rhai allai beryglu bywyd.
"Yn ffodus, yn dilyn llawdriniaeth frys, mae bellach mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Gwynedd, Bangor," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Brian Kearney.
"Rydym yn ddiolchgar i'r criw ambiwlans a'r tîm brys yn Ysbyty Gwynedd am achub bywyd y dyn yma."
Gwybodaeth 'allweddol'
Dywedodd arweinydd yr ymchwiliad i'r achos, y Ditectif Sarjant Dafydd Hughes: "Rydym yn credu bod yna ddau dyst allweddol a allai ein helpu - Mark Griffiths, sy'n 24 oed ac yn cael ei nabod yn lleol fel Mark Fango, a Craig Oulton, sy'n 34 oed ac yn cael ei nabod yn lleol fel Craig Batman.
"Mae'r ddau yn dod o ardal Caernarfon.
"Bydden ni'n ddiolchgar petaen nhw'n cysylltu â ni o'u gwirfodd oherwydd rydym yn credu y gallen nhw fod â gwybodaeth hanfodol i'r ymchwiliad."
Ychwanegodd bod yr heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall ar hyn o bryd mewn cysylltiad â'r digwyddiad a bod archwiliad fforensig yn cael ei gynnal.