Sefydlu elusen i helpu rhai sydd wedi colli teulu dramor

  • Cyhoeddwyd
Tom BassettFfynhonnell y llun, Steve Bassett
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tom yn gefnogwr rygbi brwd ac wedi bod mewn sawl gêm gyda'i rieni

Dywed teulu o Gaerdydd eu bod yn falch bod elusen, gafodd ei sefydlu wedi marwolaeth eu mab 30 oed yn Dubai, yn gallu helpu teuluoedd eraill sydd wedi colli anwyliaid dramor.

Bu farw Tom, mab Steve a Linda Bassett, ym Mai 2017 gyda'r rhieni yn dweud fod yna ddiffyg cefnogaeth gan yr awdurdodau.

Fe benderfynodd y teulu sefydlu ymddiriedolaeth i gynnig cyngor a chefnogaeth emosiynol i bobl mewn sefyllfa debyg.

Ddwy flynedd a hanner ers ei farwolaeth dyw teulu Tom Bassett dal ddim yn gwybod yn union sut bu farw ei mab wedi iddo gael ei daro gan yrrwr oedd wedi yfed.

Bellach mae ymddiriedolaeth REST, dolen allanol wedi helpu i gludo adref cyrff pobl sydd wedi marw yn China, Twrci a Dubai ac mae wedi cynnig cymorth a chyngor i nifer o deuluoedd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tom yn byw gyda'i gariad Stacey yn Nhŷ-du ger Casnewydd

Does yna ddim cwest wedi bod i farwolaeth Tom ac mae'r teulu yn parhau i aros am iawndal o £22,000 wedi achos yn erbyn y dyn a wnaeth ei ladd.

Dywedodd Mrs Bassett: "Y peth gwaethaf yn y byd yw peidio gwybod pob dim.

"Dwi'n gwybod y buasai yn torri ein calon - ond mi ddylen fod yn cael gwybodaeth am oriau diwethaf bywyd Tom."

Mae'n cael ei ddisgrifio fel "dyn llawn hwyl" oedd â pherthynas agos gyda'i frawd Oliver a'i chwaer Fiona.

Fe aeth i Dubai yn haf 2017 ar gyfer parti stag ei ffrind - roedd ei rieni ag amheuon am yr achlysur gan eu bod yn poeni am reolau yfed yn Dubai.

Disgrifiad o’r llun,

Fe dalodd ei rieni am gael Tom adref ac fe gymerodd hi flwyddyn iddynt gael ei arian yswiriant teithio

Wedi iddynt gael galwad ffôn am farwolaeth Tom ym mherfeddion nos ym Mai 2017 teithiodd ei rieni a chyfaill i Tom i Dubai.

Ychwanegodd Mrs Bassett: "Roedden wedi gobeithio cyfarfod â rhywun o'r Swyddfa Dramor ond doedd neb yno a doedd dim gwybodaeth.

"Hefyd roedd yr heddlu yn anfoesgar ac yn chwerthin ar ben jôc breifat rhyngddynt.

"Roedd yna help gan y gwesty ond ddim gan yr awdurdodau."

Fe dalodd y rhieni £6,700 am gludo corff Tom yn ôl adref ac ers y digwyddiad maent wedi canfod bod y dyn a darodd Tom wedi cael ei ddedfrydu i bum mis o garchar ac wedi cael gorchymyn i dalu £22,000 i'r teulu.

Ond doedd na'm galw am dystiolaeth gan un o ffrindiau Tom ac mae'r teulu eto i dderbyn yr arian.

Hefyd mae cwest fod i gael ei gynnal yn y DU.

Disgrifiad o’r llun,

Tom ar Yr Wyddfa - y man lle gwasgarwyd ei weddillion

"Ry'n wedi bod yn ffodus o gael cymorth teulu a ffrindiau," meddai Mrs Bassett.

"Felly ein dymuniad ni oedd sefydlu elusen er cof am Tom - elusen sy'n helpu eraill mewn sefyllfa debyg."

Cafodd ymddiriedolaeth REST ei sefydlu ym Mai 2018 ac yn ogystal â helpu i ddod â phobl adref mae wedi rhoi cyngor i wyth teulu gan godi £85,000 drwy amrywiol ddigwyddiadau.

'Cydymdeimlad dwys'

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda theulu Tom wedi ei farwolaeth echrydus yn Dubai yn 2017.

"Mae ein staff yn parhau i roi cefnogaeth i'r teulu ac ry'n yn parhau i fod mewn cysylltiad gyda'r awdurdodau yn Dubai."

Ychwanegodd nad oes modd iddynt roi cymorth cyfreithiol na thalu am gludo corff adref ond maent yn rhoi cyngor am gofrestru marwolaeth, trefnwyr angladd rhyngwladol a throsglwyddo arian.