Pro 14: Dreigiau 25-18 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Roedd yna siom bellach i'r Gweilch oddi cartref yn erbyn y Dreigiau ddydd Sadwrn wedi iddynt gael eu trechu o saith pwynt.
Ceisiau hwyr gan seren y gêm Rio Dyer a'r eilydd Adam Warren a seliodd y fuddugoliaeth wedi cais cynnar gan brop Cymru Leon Brown.
Fe wnaeth cyn-chwaraewr y Gweilch Sam Davies ychwanegu deg pwynt at y sgôr.
George North a Tiaan Thomas-Wheeler sgoriodd i'r Gweilch ond bu'n rhaid i North adael y cae oherwydd anaf - newyddion drwg i hyfforddwr Cymru Wayne Pivac a chapten y Gweilch Justin Tipuric.
Ddydd Sadwrn oedd y tro cyntaf i North chwarae wedi gêm gyn-derfynol Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan.
Roedd y Gweilch ar y blaen o bum pwynt (18-13) wrth i'r gêm dynnu tua ei therfyn ond mae'r ffaith i'r Dreigiau frwydro'n ôl yn adlewyrchu tynged y Gweilch y tymor hwn - maent bellach wedi colli 11 gêm yn olynol ac 13 allan o 14.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2019