Ystyried ehangu cynllun gofal plant am ddim
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried ymestyn eu cynllun gofal plant i'w wneud ar gael i rieni sydd ddim yn gweithio hefyd.
Ar hyn o bryd dim ond rhieni sy'n gweithio sy'n gymwys am y cynnig o 30 awr o ofal am ddim i blant tair a phedair oed.
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gohirio'r gwaith ar brosiect gwerth £1m gyda HMRC i newid y ffordd mae cymhwysedd ar gyfer y cynllun yn cael ei oruchwylio.
Mae Plaid Cymru wedi croesawu'r syniad o ymestyn y cynllun, ond yn dweud bod y ffordd mae wedi cael ei drin yn "ffars".
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y feirniadaeth yn "nonsens", a bod dros 15,000 o deuluoedd eisoes yn cael budd o'r cynnig o ofal plant am ddim.
Roedd y polisi yn un allweddol i Lafur Cymru yn etholiad y Cynulliad yn 2016.
Ar hyn o bryd, awdurdodau lleol sy'n asesu cymhwysedd ar gyfer y cynllun.
Er mwyn lleihau'r baich ar gynghorau roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda HMRC ar system newydd.
Ond mewn llythyr at bwyllgor plant y Cynulliad dywedodd y dirprwy weinidog ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, Julie James bod "nifer o broblemau" wedi ei harwain at ohirio'r gwaith ar gyflwyno newidiadau.
Dywedodd Mr Morgan bod y problemau'n cynnwys cydymffurfio â safonau'r iaith Gymraeg a'r penderfyniad i adolygu pwy sy'n gymwys ar gyfer y cynllun.
Ychwanegodd bod y gwaith gyda HMRC wedi costio £1m hyd yn hyn, ond heb y gwaith hynny na fyddan nhw wedi gallu "gwneud penderfyniad cytbwys ynglŷn â'r ffordd orau i symud 'mlaen".
Fe wnaeth llefarydd addysg Plaid Cymru, Siân Gwenllian, feirniadu'r penderfyniad i beidio â gwneud y cynllun ar gael i bawb yn y lle cyntaf.
"Mae hyn yn ffars ac yn esiampl arall o Lafur yn creu traed moch o bolisi allweddol," meddai.
"Roedd hi'n amlwg i bawb, gan gynnwys y Comisiynydd Plant, y dylai'r cynnig gofal plant fod wedi cynnwys pob rhiant, gan gynnwys rhai di-waith a'r rheiny sy'n dychwelyd i'r gwaith, o'r dechrau."
Ychwanegodd bod Llafur wedi "gwastraffu £1m o arian cyhoeddus" wedi iddyn nhw ohirio'u gwaith gyda HMRC ar system newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod beirniadaeth Plaid Cymru yn "nonsens".
"Mae dros 15,000 o deuluoedd yn cael budd o'n cynnig gofal plant, sydd wedi cael ei ehangu ar draws y wlad flwyddyn yn gynt na'r disgwyl," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd30 Mai 2018
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2017