Dyn 41 oed wedi marw yn dilyn helynt yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Wrecsam wedi marw ar ôl cael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn digwyddiad yn un o stadau'r dref Ddydd Calan.
Roedd Darren Richards yn 41 oed.
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Whitegate stad Parc Caia am tua 20:15 nos Fercher, 1 Ionawr wedi adroddiadau o helynt.
Dywedodd y Prif Arolygydd Mark Williams o Heddlu Gogledd Cymru bod "dyn 37 oed, sydd hefyd o ardal Wrecsam, yn y ddalfa ar hyn o bryd yn helpu'r heddlu gyda'n hymholiadau".
"Bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal yn y dyddiau nesaf.
"Yn y cyfamser rwy'n gofyn i unrhyw un a welodd helynt rhwng dau ddyn ger Pont Wen a Ffordd Whitegate gysylltu â ni."
Mae'r llu hefyd yn awyddus i glywed gan "unrhyw un mewn cerbyd yn yr ardal yma gyda recordiad dash cam rhwng 19:00 a 21:00".
Pwysleisiodd y Prif Arolygydd Williams bod y digwyddiad yn un "neilltuol a dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â marwolaeth Darren ar hyn o bryd".
Mae modd cysylltu â'r heddlu ar-lein a thrwy ffonio 101 neu 0800 555 111, sef rhif llinell Taclo'r Tacle, gan ddyfynnu'r cyfeirnod Y000532.