Cyhoeddi enw dau wedi marwolaethau mewn tŷ yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Gary WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enwau dyn a menyw gafodd eu canfod yn farw mewn tŷ yn Llanelli dros y penwythnos.

Fe gafodd swyddogion eu galw i eiddo yn Lakefield Place ychydig ar ôl 20:30 nos Sul, 29 Rhagfyr, ble cawson nhw o hyd i gorff Gary Williams, 58, o Dregŵyr.

Cafwyd hyd hefyd i gorff dynes 46 oed, sydd bellach wedi'i chadarnhau fel Jessena Sheridan o Lanelli.

Ar y pryd dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De: "Mae marwolaeth y dyn yn cael ei drin fel llofruddiaeth a marwolaeth y fenyw fel un sydd ddim yn amheus.

"Dyw swyddogion ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad."

Ddydd Iau fe gadarnhaodd y llu na fyddai unrhyw un yn cael eu herlyn mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac mae disgwyl nawr i'r crwner agor cwest i'r ddwy farwolaeth.

Ychwanegodd yr heddlu bod y teuluoedd wedi gofyn am breifatrwydd wrth iddyn nhw ddygymod â'u colled.