Dyn a ganfuwyd ar ffordd yn Llanilltud Faerdref wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod y dyn a gafodd ei ganfod gan aelod o'r cyhoedd ar ganol ffordd yn Llanilltud Faerdref ddydd Calan wedi marw yn yr ysbyty.
Roedd y dyn 57 oed wedi cael anafiadau difrifol i'w ben a chafwyd hyd iddo yn ystod oriau mân fore Mercher.
Mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal er mwyn canfod union achos y farwolaeth,
Yn y cyfamser mae swyddogion sy'n ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad yn apelio ar unrhyw un a oedd yn ardal Chandlers Reach rhwng hanner nos a 01:45 ddydd Calan i gysylltu â nhw.