'Gwarthus' bod Trafnidiaeth Cymru'n torri rheolau iaith

  • Cyhoeddwyd
Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am gwmni Trafnidiaeth Cymru

Mae gweinidogion Cymru wedi torri'r gyfraith drwy beidio â sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg ar drenau Trafnidiaeth Cymru, yn ôl adroddiad cychwynnol gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Mewn dyfarniad drafft, dywed Aled Roberts bod y gyfraith wedi'i thorri mewn naw gwahanol ffordd.

Dywed llefarydd y Ceidwadwyr ar yr iaith Gymraeg, Suzy Davies AC, fod canfyddiadau'r adroddiad - sydd ddim yn derfynol - yn enghraifft "warthus o dorri'r gyfraith gan Lywodraeth Cymru".

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae'n "destun embaras i Lywodraeth Cymru eu bod wedi methu cadw at eu safonau cyfreithiol eu hunain".

Mae gweinidogion wedi derbyn y cyfrifoldeb am y diffygion, gan gydnabod mewn tystiolaeth i'r ymchwiliad bod y ddarpariaeth yn anghyson ar draws Cymru.

'Dewis iaith e-bost'

Roedd yr ymchwiliad yn ymateb i chwech o gwynion gan aelodau'r cyhoedd i swyddfa'r Comisiynydd yn Hydref a Thachwedd 2018, sef:

  • Diffyg fersiwn Cymraeg o ap Trafnidiaeth Cymru ac opsiwn Cymraeg ar y wefan ffôn symudol;

  • Tudalen we oedd ddim yn adnabod enwau Cymraeg gorsafoedd;

  • Tocynnau trên uniaith Saesneg;

  • Dewisiadau Saesneg ar beiriant hunanwasanaeth yng ngorsaf Caerdydd Canolog er i'r achwynydd ddewis yr opsiwn Cymraeg;

  • Diffyg gwasanaeth Cymraeg gan staff yng ngorsafoedd Caerdydd Canolog a Chasnewydd; ac

  • E-byst uniaith Saesneg.

Dywed y Comisiynydd bod "ymateb gan weinidogion Cymru yn derbyn cyfrifoldeb am y materion y cwynir amdanynt" heb gynnig sylwadau pellach ym mron pob achos.

Ond esboniodd y gweinidogion bod e-byst yn cael eu hanfon yn newis iaith yr unigolyn ar sail yr iaith a gofrestrwyd ar wefan Trafnidiaeth Cymru i dderbyn hysbysiadau, a "bod modd newid dewis iaith ar unrhyw adeg yn ddidrafferth".

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gwybodaeth Gymraeg ar wefan Trafnidiaeth Cymru am swydd agored gyfredol

Ychwanegodd y Comisiynydd materion eraill oedd wedi dod i'w sylw o fewn cylch gorchwyl yr ymchwiliad, gan gynnwys cyhoeddiadau sain uniaith Saesneg.

Roedd yna hefyd bryder ynghylch sawl agwedd o'r broses recriwtio gan fod y wefan a ffurflenni cais yn uniaith Saesneg, a doedd dim cynnig i nodi dymuniad i gael eu cyfweld yn Gymraeg.

Hefyd roedd swyddi'n cael eu hysbysebu heb ddynodiad iaith o gwbl, gan gynnwys un yng Nghaergybi lle roedd angen i weithwyr ddelio'n uniongyrchol â'r cyhoedd.

Ond yn yr achos hwnnw doedd y cwmni heb fynd yn groes i'r safonau, gan fod y cytundeb gyda'r cwmni preifat sy'n gyfrifol am redeg gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru ddim yn ymrwymo'r contractwr i gydymffurfio â holl safonau Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Aled Roberts yn cyhoeddi adroddiad terfynol maes o law gan roi tri mis i weinidogion Cymru weithredu ei argymhellion

Dywedodd Mr Roberts: "Yn achos Trafnidiaeth Cymru lle mae staff yn cael eu penodi i gyflwyno gwasanaethau ar ran y llywodraeth rwyf o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cynnwys amodau o fewn y cytundeb i sicrhau bod y gwasanaethau oedd yn cael eu cyflwyno ar eu rhan yn gallu cael eu cyflwyno yn Gymraeg."

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod dim "capasiti cyfredol... i ddarparu gwasanaeth Cymraeg wyneb yn wyneb ym mhob swyddfa docynnau ar draws y rhwydwaith" ond bod Llywodraeth Cymru'n cymryd camau "i gynllunio'r gweithlu yn fwy effeithiol, gan gynnwys edrych ar arferion recriwtio".

Nid oedd Keolis Amey yn gallu cadarnhau sawl aelod o staff cownter tocynnau yng ngorsafoedd Caerdydd Canolog a Chasnewydd sy'n gallu darparu gwasanaeth Cymraeg.

Fe wnaeth gweinidogion gydnabod bod y sefyllfa'n anghyson ar draws Cymru o ran sicrhau cyhoeddiadau sain dwyieithog ar drenau ac mewn gorsafoedd.

Mae'r adroddiad yn nodi bod Trafnidiaeth Cymru wedi etifeddu "system hynafol o ddarparu cyhoeddiadau mewn rhai gorsafoedd o'r contract blaenorol" a bod "prosiect sylweddol ar waith i ganfod datrysiad hir dymor i'r broblem fel rhan o'r prosiect i wella gorsafoedd".

Awgrymwyd hefyd mai problemau ymarferol sy'n golygu bod tocynnau ddim ar gael yn Gymraeg.

'Methiannau sylfaenol'

Dywed Cymdeithas yr Iaith eu bod "yn disgwyl i'r methiannau sylfaenol yma gael eu datrys cyn gynted â phosibl" ar ôl derbyn "llawer o gwynion gan aelodau a chefnogwyr" ers i'r cwmni hyd braich, Keolis Amey, gymryd yr awennau yn Hydref 2018.

Maen nhw eisoes wedi trafod eu pryderon gyda Thrafnidiaeth Cymru a'r Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, ac yn dadlau bod yr holl ddiffygion "yn gwbl ragweladwy ymhell cyn iddyn nhw gymryd rheolaeth dros y gwasanaeth".

Ychwanegodd David Williams: "Dylai fod yn destun embaras i Lywodraeth Cymru eu bod wedi methu cadw at eu Safonau cyfreithiol eu hunain.

"Mae'n hollol amlwg pam bod pobl mor flin am y sefyllfa. Dyw pethau sylfaenol fel cyhoeddiadau sain a thocynnau ddim ar gael yn Gymraeg. Dyw hi ddim hyd yn oed yn bosib prynu tocyn trên yn Gymraeg ar eu gwefan."

Dywedodd yr AC Ceidwadol, Suzy Davies: "Mae'n embaras bod busnes dan berchnogaeth y wladwriaeth yng Nghymru wedi torri'r gyfraith dros gynifer o faterion sylfaenol.

"Mae deddfau ar y Gymraeg yno am reswm, ac mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gosod esiampl ofnadwy i bob busnes yng Nghymru, ac wedi siomi siaradwyr Cymraeg y genedl hon."

Mae rheolwyr Trafnidiaeth Cymru wedi croesawu adroddiad y Comisiynydd, gan ddweud bod yna welliannau eisoes i'r ddarpariaeth Gymraeg a rhagor i ddod.

"Rydym yn ymwybodol fod yna lawer o waith eto i wireddu ein uchelgeisiau'n llawn o ran y Gymraeg," meddai Cyfarwyddwr Datblygu Gogledd Cymru, Lee Robinson, gan gyfeirio at y cydweithio sy'n mynd rhagddo gyda'r comisiynydd iaith.

"Mae maint y cynllunio a'r datblygu mewn mannau penodol yn golygu amserlenni gweithredu hirach a bydd Trafnidiaeth Cymru'n rhoi gwybod am y gwelliannau yma wrth ei gwireddu."

Ychwanegodd eu bod yn croesawu unrhyw adborth gan y cyhoedd, boed yn gadarnhaol neu'n feirniadol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni o ddifrif am ein hymrwymiad i'r iaith Gymraeg ac rydyn ni'n disgwyl i sefydliad Trafnidiaeth Cymru weithredu yr un fath.

"Byddwn yn monitro ymateb TrC yn fanwl, ynghyd â diweddariadau rheolaidd ar gydymffurfiaeth yng nghyswllt y Gymraeg."