Achub dwy gerddwraig oddi ar fynydd Tryfan yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i hofrennydd achub dwy ddynes oddi ar fynydd Tryfan yn Eryri ddydd Sadwrn wedi iddynt grwydro i lwybr cul tra'n cerdded.
Dywedodd llefarydd ar ran tîm achub mynydd Ogwen bod y cerddwyr wedi cerdded y rhan fwyaf o grib ogleddol y mynydd 3,010 troedfedd.
Roedd cerddwyr a oedd yn digwydd pasio wedi rhoi cyfarwyddiadau i'r merched ond wedi iddynt golli golwg ar y cerddwyr fe grwydrodd y ddwy oddi ar y llwybr.
Doedd dim angen triniaeth ar y ddwy ddynes.