Arestio dyn wedi digwyddiad yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
heol y bont

Mae dyn wedi ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiad yn Aberystwyth nos Sadwrn.

Cafodd dyn 35 oed ei ganfod gan blismyn yn eistedd ar sil ffenest adeilad yn Heol y Bont tua 21.00 gydag anafiadau difrifol i'w ben.

Y gred yw bod rhywun wedi ymosod arno.

Fe wnaeth Heddlu Dyfed- Powys apelio am wybodaeth ac maent yn dweud bod dyn bellach wedi cysylltu gyda nhw a'u bod wedi ei arestio.

Dyw'r llu ddim wedi dweud yr hyn y mae wedi cael ei arestio ar amheuaeth o wneud.

Mae'r dyn 35 oed a gafodd ei anafu wedi ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd oherwydd difrifoldeb ei anafiadau.