Safle Tata Port Talbot angen dod yn 'hunan gynhaliol'

  • Cyhoeddwyd
TataFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cadeirydd grŵp Tata wedi dweud na all y cwmni fod "mewn sefyllfa lle mae India yn parhau i lenwi'r bwlch ariannol" yn sgil y colledion ym Mhort Talbot.

Mewn cyfweliad gyda phapur newydd The Sunday Times mae Natarajan Chandrasekaran yn dweud bod angen i'r ffatri fod yn un sydd yn gallu cynnal ei hun.

Roedd colledion Tata cyn treth y llynedd yn £371m. £222m oedd y ffigwr yn 2017-18.

Yn ôl undeb Unite mae ei sylwadau yn rhoi "mwy o bwysau" ar y gweithwyr.

"Byddai pawb yn dweud wrthoch chi bod Tata wedi mynd y filltir arall er mwyn cadw'r lle i fynd," meddai Mr Chandrasekaran yn y cyfweliad.

"Byddai unrhyw un arall wedi cerdded i ffwrdd. Dwi ddim eisiau gwneud datganiadau mawr (ynglŷn ag ymroddiad). Rydyn ni yn gwneud penderfyniadau anodd. Felly gobeithio byddwn ni yn dechrau gweld canlyniadau o hynny."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd eu cefnogaeth i'r sector ddur yn parhau.

Ym mis Tachwedd fe gyhoeddodd Tata ei bod yn bwriadu cael gwared a 3,000 o swyddi ar draws Ewrop. Dywedodd y Gweinidog Economi, Ken Skates, ei fod yn credu bod 1,000 o rain ym Mhort Talbot.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 4,000 o weithwyr Tata ym Mhort Talbot

Mae bron i hanner o'r gweithlu Prydeinig yn gweithio ym Mhort Talbot ac ym mis Ionawr 2019 cafodd ffwrnes gwerth £50m ei agor ar y safle.

Ym mis Mehefin penderfynodd y Comisiwn Ewropeaidd beidio â chaniatáu i Tata a chwmni Almaeneg Thyssenkrupp uno o achos pryderon ynglŷn â chystadleuaeth yn y sector.

Yn ôl Gareth Howells, arbenigwr ar y diwydiant dur, dyw sylwadau Mr Chandrasekaran ddim yn rhai sydd yn mynd i synnu'r bobl sydd yn gweithio yn y ffatri.

'Ansicrwydd'

"Wrth siarad gyda rhai o'r gweithwyr sy'n gweithio yma yn y misoedd diwethaf, o'n nhw yn gwybod bod pethau yn anodd ac wrth gwrs yr ansicrwydd ynglŷn â Brexit...

"Dyw e ddim yn rhywbeth fyswn ni yn meddwl oedd yn annisgwyl. Mae hyn yn rhan arall o'r ansicrwydd maen nhw yn gweld o ddydd i ddydd," meddai.

Dywedodd Paul Evans, swyddog undeb Unite ar gyfer Cymru fod y cyfweliad gan y cadeirydd yn rhoi "mwy o bwysau ar weithwyr Tata ym Mhort Talbot."

"Mae'r gweithwyr ym Mhort Talbot wedi profi ers sawl blwyddyn eu bod yn cynhyrchu dur o safon byd eang a gallith Cymru na Phrydain ddim fforddio colli'r arbenigedd yma na'r ymroddiad maen nhw wedi dangos dros y blynyddoedd," ychwanegodd.

Mae llefarydd ar gyfer Tata wedi cadarnhau bod y sylwadau wnaeth y cadeirydd yn y cyfweliad wedi eu cyfleu i'r gweithwyr yn barod.

'Ymrwymiad cryf'

Ar ran Llywodraeth Cymru dywedodd llefarydd: "Ry'n yn cydnabod bod y sector ddur yn wynebu amrywiaeth eang o heriau - ar draws y byd ac adref.

"Mae Llywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi dangos ymrwymiad cryf i weithio gyda Tata ac undebau er mwyn sicrhau dyfodol tymor hir i'r gwaith o gynhyrchu dur ym Mhort Talbot ac ar draws Cymru ac fe fyddwn yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.

"Ry'n hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi y diwydiant dur."