Cwmni dur Tata i dorri 1,000 o swyddi yn y DU

  • Cyhoeddwyd
Tata

Mae cwmni dur Tata wedi cyhoeddi y bydd 1,000 o swyddi'n diflannu yn y DU fel rhan o ailstrwythuro'r busnes.

Mae'r rhan fwyaf o weithlu'r cwmni yn y DU yn ei safleoedd yng Nghymru, ond nid yw'n glir eto faint o swyddi yng Nghymru all gael eu colli.

Mae gwaith dur Port Talbot yn cyflogi bron i hanner yr 8,385 o weithlu Prydeinig y cwmni.

Yn ogystal â Phort Talbot mae gan Tata safleoedd yn Llanwern, Trostre, Casnewydd, Caerffili a Shotton.

Heriau'r farchnad

Dywedodd y cwmni bod angen y cynlluniau er mwyn "diogelu dyfodol hirdymor" y busnes.

Bydd yn golygu colli cyfanswm o 3,000 o swyddi - hyd at 1,600 yn Yr Iseldiroedd, 1,000 yn y DU a 350 mewn gwledydd eraill.

Fe wnaeth y cwmni gyhoeddi'r cynlluniau i dorri 3,000 o swyddi Ewropeaidd yr wythnos ddiwethaf, mewn ymgais i ddelio â heriau'r farchnad ryngwladol.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd gweithwyr yn cyrraedd ar gyfer eu shifftiau fel yr arfer ym Mhort Talbot fore Iau

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni y byddai dwy ran o dair o'r swyddi sy'n diflannu yn rai rheolwyr ac mewn swyddfeydd.

Wrth gyhoeddi'r cynllun, dywedodd Prif Swyddog Tata yn Ewrop, Henrik Adam, nad oedd modd "sefyll yn stond fel cwmni".

'Un broblem ar ôl y llall'

Dywedodd undeb Community bod ganddynt "bryderon difrifol" eu bod "ond wedi gweld y cynlluniau tymor byr, fydd yn creu pryder ac ansicrwydd ac yn gwneud ychydig iawn i annog hyder".

Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol yr undeb mae'r cwmni wedi bod yn "ddi-glem" ers iddyn nhw benderfynu peidio gwerthu ei safleoedd yn y DU yn 2016.

Dywedodd Roy Rickhuss ar Radio Wales fore Iau bod y ffordd mae Tata wedi delio â'r cyhoeddiad yn "ofnadwy" a'i fod yn "un broblem ar ôl y llall" gyda'r cwmni.

"Fe wnaeth Tata gyflwyno'r cynigion hyn ddoe ac fe gafon nhw wybod gan undebau ledled Ewrop eu bod yn annerbyniol," meddai.

"Rydyn ni eisiau gwybod am fuddsoddiad a beth sydd i ddod yn y dyfodol, ond oll maen nhw wedi'i wneud ydy meddwl am y cynnig gwarthus yma i dorri swyddi."

Fe wnaeth cyn-weithiwr dur yn safle Tata ym Mhort Talbot, Tony Taylor, feirniadu'r cwmni am y ffordd maen nhw wedi delio â'r sefyllfa, gan ddweud ei bod yn annheg ar y gweithlu dros y Nadolig.

Cafodd safleoedd Tata yn y DU eu rhoi ar werth yn 2016, gan greu misoedd o ansicrwydd.

Ond yna roedd oedi i'r cynllun, wrth i'r cwmni gyhoeddi buddsoddiad o £1bn yn safle Port Talbot, ac ymgais i osgoi colli swyddi.

Fe wnaeth Tata ymchwilio i uniad posib gyda Thyssenkrupp, ond cafodd y cytundeb ei atal gan y Comisiwn Ewropeaidd dros bryderon am gystadleuaeth petai'r ddau'n uno.

'Pryderus iawn'

Dywedodd Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru, Ken Skates: "Mae Tata wedi cadarnhau'n flaenorol eu bod eisiau osgoi diswyddiadau gorfodol, a byddaf yn pwysleisio'r pwysigrwydd o lynu at hynny gyda'r cwmni."

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r diwydiant yn "frwd", a galwodd ar Lywodraeth y DU i ymateb i'r problemau "gyda'r pwysigrwydd a'r brys maent yn eu haeddu".

Dywedodd AC Llafur Aberafan, David Rees, bod yr "ansicrwydd" o beidio gwybod yn lle y bydd y fwyell yn disgyn "ddim yn helpu gweithwyr dur, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach".

Mae'r AC Ceidwadol, Suzy Davies, wedi galw'r newyddion yn "bryderus iawn", gan alw am fwy o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru am y sefyllfa.

Galwodd AC Plaid Cymru, Bethan Sayed, ar Tata i ryddhau "gwybodaeth fwy manwl" ynghylch y sefyllfa.