Diswyddo heddwas am weithred rhyw tra ar ddyletswydd
- Cyhoeddwyd
Mae heddwas wedi cael ei ddiswyddo ar ôl cyfaddef i weithred rhyw gyda chyd-weithiwr tra ar ddyletswydd.
Perfformiodd PC Abby Powell gyfathrach eneuol (oral sex) ar ei chyd-swyddog Alex Price mewn car heddlu gyda'r ddau'n gwisgo iwnifform lawn.
Fe roddodd Powell, 28, y gorau i'w swydd gyda'r heddlu ar ôl cyfaddef i'r cyhuddiad - tra bod Price, 49, wedi parhau i weithio i Heddlu De Cymru.
Ond cafodd Price ei ddiswyddo ar unwaith ddydd Mawrth ar ôl cyfaddef tri chyhuddiad yn ei erbyn.
Dywedodd Jonathan Walters, y swyddog cyflwyno, wrth wrandawiad camymddwyn yr heddlu bod y pâr "mewn perthynas".
Yn dilyn y gwrandawiad, ni fydd Powell yn cael dychwelyd i ddyletswydd.
'Gwadu dro ar ôl tro'
Cyfaddefodd Price a Powell hefyd gyffwrdd â chymhelliant rhywiol tra'n gweithio gyda'i gilydd yn Nhonyrefail, Rhondda Cynon Taf.
Roedd y ddau yn derbyn bod eu gweithredoedd yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.
Cyfaddefodd Price hefyd i gyhuddiad o ddweud celwydd mewn cyfweliad heddlu ac mae'n derbyn ei fod yn gyfystyr â diffyg uniondeb ac anonestrwydd.
Dywedodd Mr Walters: "Yn ei gyfweliad cyntaf gwadodd Price dro ar ôl tro ei fod wedi cynnal ei hun yn y ffyrdd yr honnir y mae bellach yn eu cyfaddef.
"Mewn ail gyfweliad dridiau'n ddiweddarach, cyfaddefodd Price mai celwydd oedd yr hyn a ddywedodd yn y cyfweliad cyntaf."
Honnir bod y digwyddiad yn y car patrôl wedi digwydd tra roedd y ddau ar ddyletswydd yn hydref 2017.
Cafodd honiadau eu gwneud yn eu herbyn ac fe ddechreuodd ymchwiliad i'r pâr flwyddyn yn ddiweddarach.
Wrth gyhoeddi'r rheithfarn i'r gwrandawiad, dywedodd y cadeirydd Peter Griffiths: "Ar ôl ystyried yr holl ganlyniadau posib mae'r panel wedi dod i'r penderfyniad unfrydol dros y canlyniad.
"Mae PC Price i gael ei ddiswyddo heb rybudd a, phe bai PC Powell wedi bod gyda'r heddlu o hyd, byddai hefyd wedi cael ei diswyddo heb rybudd."