Talu i yrru i ganol Caerdydd?

  • Cyhoeddwyd
Canol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae lefel llygredd aer yng Nghaerdydd y pedwerydd waethaf yn y DU

Bydd mesurau i fynd i'r afael â thagfeydd a llygredd aer ym mhrifddinas Cymru'n cael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf.

Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd gyhoeddi papur gwyn ar drafnidiaeth ar 15 Ionawr fydd yn weithredol am y degawd nesaf.

Ar gyfartaledd mae llygredd aer yng Nghaerdydd y pedwerydd waethaf yn y DU, gyda Heol y Castell yn destun pryder arbennig.

Fe allai'r cynlluniau gynnwys codi tâl ar yrwyr sy'n dod i mewn i ganol y ddinas, ac mae hynny wedi codi pryder gwahanol.

Yn flaenorol fe wnaeth Cyngor Caerdydd gyhoeddi newid i fynedfeydd i gerbydau fel rhan o gynlluniau gwerth £21m i lanhau aer y brifddinas.

Roedd y cynlluniau hefyd yn cynnwys newid llif y traffig a chyflwyno 36 o fysys trydan yn lle'r cerbydau hynaf oedd yn dal i redeg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Joel Williams yn credu mai camgymeriad fyddai cyflwyno tâl ar yrwyr yng nghanol y ddinas

Cafodd y syniad o godi tâl ar fodurwyr i fynd i mewn i "ardal awyr lân" yng nghanol y ddinas eu gollwng ym mis Mawrth y llynedd, ond mae rhai cynghorwyr yn pryderu y gallai'r syniad yna gael ei atgyfodi.

Mae'r cynghorydd Joel Williams, sy'n cynrychioli Hen Laneirwg, yn credu mai camgymeriad fyddai hynny.

"Byddai tâl o'r fath ar hyn o bryd yn chwalu busnesau lleol ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau cyhoeddus," meddai.

"Mae pobl yn cefnogi lleihau allyriadau niweidiol, ond cyn hynny mae'n rhaid buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus... fel arall dim ond esgus dros godi tâl ar bobl yw hyn."

Disgrifiad o’r llun,

'Nid mater o gosbi gyrwyr yw hyn,' medd Huw Cook

Ond fe ddywed elusen Awyr Iach Cymru a'r British Lung Foundation yn credu bod angen "mesurau beiddgar".

Dywedodd Huw Cook o Awyr Iach Cymru: "Ardaloedd awyr lân yw'r dull mwyaf effeithiol o leihau llygredd aer yn y tymor byr a gweithio tuag at lefelau aer glanach yn y tymor hir.

"Nid mater o gosbi gyrwyr na chreu refeniw yw hwn. Mae'n fater o newid ymddygiad, yn debyg iawn i sut gwaeth gwahardd ysmygu wneud gyda iechyd cyhoeddus."

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i "fynd ymhellach" na chyd-fynd â chanllawiau'r Undeb Ewropeaidd am lefelau'r nwy nitrogen deuocsid.

Bydd mesurau eraill yn cynnwys newidiadau i'r polisi trwyddedu tacsis a throi Heol y Castell a Heol y Porth yn ffyrdd trafnidiaeth un lôn.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan nad oes lefel diogel o lygredd aer, a phrif ffynhonnell aer budr yn y brifddinas yw trafnidiaeth ar ein ffyrdd gyda pheiriannau disel y pryder mwyaf.

"Dyna pam yr ydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid i gael gwelliant sylweddol i'r isadeiledd ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a theithio actif i mewn, ac o fewn ffiniau'r ddinas."