Bwrdd Iechyd Hywel Dda i adolygu ysbytai ar ôl canslo triniaeth
- Cyhoeddwyd
Bydd bwrdd iechyd yn cynnal adolygiad trwyadl o'r penderfyniadau arweiniodd at ganslo llawdriniaethau arferol ym mhedwar ysbyty yng ngorllewin Cymru.
Ddydd Mercher, cafodd llawdriniaethau eu canslo am y trydydd diwrnod yn olynol oherwydd pwysau ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda.
Cafodd llawdriniaethau yn ysbytai Bronglais yn Aberystwyth, y Tywysog Phillip yn Llanelli, Llwynhelyg yn Hwlffordd a Glangwili yng Nghaerfyrddin eu gohirio ddydd Llun a Mawrth hefyd.
Daw wrth i'r ystadegau diweddaraf ddangos bod nifer yr achosion o'r ffliw yng Nghymru wedi gostwng ychydig yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gyda chyfraddau'n parhau i fod yn "ganolog".
Mae Hywel Dda wedi gohirio llawdriniaethau wedi'u trefnu'n barod ers dydd Llun er mwyn "sicrhau diogelwch cleifion yn ystod adegau o bwysau uchel".
Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, y byddai Hywel Dda yn "gwneud ymchwiliad manwl o'r penderfyniadau sydd wedi cael eu cymryd dros y penwythnos a'r dyddiau diwethaf".
Yn y senedd, dywedodd nad yw'r adolygiad yn golygu bod y penderfyniadau'n anghywir, ond ei fod yn "ymwneud ag eisiau dysgu a pheidio aros i adolygu hwn mewn chwe mis".
"Oes yna bethau allwn ni fod wedi eu gwneud yn wahanol, nid i'w hystyried am y flwyddyn nesaf ond am yr wythnos nesaf a'r mis nesaf."
Dywedodd Mr Gething ei fod yn credu bod y bwrdd iechyd wedi "gwneud y peth cywir" gan roi clod i staff am eu "hymateb eithriadol" ar "adeg eithriadol".
'Angen cynllunio clyfar'
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi ei feirniadu am ddisgrifio trefniadau'r bwrdd iechyd fel rhai "dyfalbarhaus".
Dywedodd AC Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Helen Mary Jones: "Hoffwn awgrymu ei fod e'n dod i ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac esbonio i fy etholwyr, oherwydd dydy hyn ddim yn edrych fel set o drefniadau dyfalbarhaus na derbyniol i fi."
Ychwanegodd Angela Burns, llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, bod prif weithredwr Hywel Dda wedi dweud wrthi bod staff wedi dod mewn ar eu dyddiau i ffwrdd, wedi gweithio dros eu hamser, ac wedi torri gwyliau'n fyr i helpu.
"Dyw hwn ddim am ymdrech y rheng flaen a'r ymrwymiad... Mae e am yr ochr gynllunio, a bod yn fwy clyfar a chyflym er mwyn atal hyn rhag ddigwydd y flwyddyn nesaf."
'Adolygu'r ddyddiol'
Fore Mercher, fe gadarnhaodd Dr Siôn James, dirprwy gyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Hywel Dda y bydd llawdriniaethau arferol - sef y rheiny a oedd wedi eu trefnu o flaen llaw - yn cael eu canslo.
Ychwanegodd fod "ysbytai yn llawn" oherwydd "nifer o heriau", gan gynnwys achosion o'r ffliw a norovirus.
"Mae nifer o lawdriniaethau yn parhau i gael eu cynnal ond bydd rhai yn cael eu gohirio ar ôl heddiw," meddai.
"Ond mae pawb yn y bwrdd yn gweithio mor galed ac y gallan nhw i sicrhau y bydd y llawdriniaethau yn cael eu cynnal cyn gynted â phosib ac mor ddiogel â phosib."
Mewn datganiad dywedodd y bwrdd iechyd: "Tra bod y sefyllfa'n parhau i fod yn heriol, rydyn ni'n asesu ein cynlluniau gweithredol ar gyfer y dyddiau o'n blaenau, fel ein trefniadau cynlluniau arferol, bydd y rhain yn cael eu hadolygu yn ddyddiol."
Dywedodd Cyngor Iechyd Cymunedol Hywel Dda eu bod yn "poeni ac wedi eu siomi" gan y nifer o lawdriniaethau sydd wedi cael eu canslo.
Datganodd y cadeirydd, Mansell Bennett: "Bydd hwn yn newyddion gwael i lawer a'n bosib yn newyddion caled i rai.
"Bydd cleifion a'u teuluoedd wedi bod yn aros am fisoedd am eu llawdriniaethau a nawr mae eu bywydau'n cael eu hatal."
Dywedodd Dr Phil Banfield, cadeirydd pwyllgor Cymreig y Gymdeithas Feddygol Brydeinig, bod y mudiad yn cwrdd gyda Llywodraeth Cymru ac yn bwriadu trafod pwysau'r gaeaf.
"Does dim un person i feio am hyn - mae hyn yn broblem o fewn y system," meddai.
"Rydyn ni'n clywed adroddiadau bod llawdriniaethau canser nawr yn cael eu canslo hefyd ar draws ysbytai gwahanol yng Nghymru.
"Ond hefyd y rheswm pam mae llawdriniaethau yn cael eu canslo yw oherwydd bod gwlâu llawdriniaeth yn llawn cleifion meddygol, ac mae hynny'n rhoi'r math anghywir o glaf yn y gwely ysbyty anghywir ar yr amser anghywir, ac mae'n eglur nad ydyn nhw'n cael y driniaeth sydd ei angen."
Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae nifer yr achosion o ffliw yng Nghymru wedi gostwng ychydig yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ac mae cyfraddau'n parhau i fod yn "ganolog".
Ar y cyfan, mae'r ystadegau'n dangos y dechreuodd y tymor ffliw yn gynharach a bod niferoedd yr achosion yn uwch na'r gaeaf diwethaf.
Ond mae cyfraddau'n gostwng ar hyn o bryd ac maen nhw'n bell o dan y lefelau uchaf y gwelwyd yn ystod tymor y ffliw ddwy flynedd yn ôl.
Er hyn, mae'r ffigyrau'n dangos mai straen H3N2 sydd fwyaf amlwg y flwyddyn hon, sy'n tueddu i effeithio fwyaf ar yr henoed.
Awgrymodd Dr Siôn James bod y ffliw wedi cyfrannu at y pwysau gaeaf sydd wedi arwain at ohirio llawdriniaethau ers dydd Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2019