Gwrthdrawiad: Bargyfreithiwr amlwg mewn cyflwr difrifol

  • Cyhoeddwyd
Patrick Harrington
Disgrifiad o’r llun,

Mae Patrick Harrington QC wedi ymddangos mewn dros 250 o achosion llofruddiaeth

Mae un o fargyfreithwyr amlycaf Cymru yn ddifrifol wael yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 ddydd Gwener diwethaf.

Cafodd Patrick Harrington QC ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ar ôl y gwrthdrawiad ar lôn orllewinol y draffordd yn ardal Casnewydd am 11:05 ar 3 Ionawr.

Dim ond un car, BMW oedd yn y gwrthdrawiad, ac mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion.

Mae Mr Harrington, o Raglan yn Sir Fynwy, wedi ymddangos yn rhai o achosion llys enwocaf Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, a hynny ar ran yr erlyniad a'r amddiffyn.

Ef oedd yr erlynydd yn y ddau achos, yn 2002 a 2006, yn erbyn David Morris, a gafodd ei garcharu am lofruddio Mandy Power, ei mam a'i dau blentyn yn eu cartref yng Nghlydach, yng Nghwm Tawe.

Yn 2003, fe lwyddodd i sicrhau euogfarn yn achos Jeffrey Gafoor am lofruddio Lynette White yng Nghaerdydd.

Yn 2012 ef oedd yr erlynydd pan gafwyd dau ddyn yn euog o lofruddio'r myfyriwr Aamir Siddiqi yng Nghaerdydd.

Mae wedi ymddangos mewn dros 250 o achosion llofruddiaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent fod Mr Harrington mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.